Darlun 3D sy'n dangos tolchen yn ffurfio y tu mewn i bibell waed.

Mae ymchwilwyr yn datblygu prawf gwaed arloesol sy'n mesur ffurfiad tolchen a'i chwalu o un sampl, sydd â'r potensial i wella triniaeth claf a lleihau'r pwysau ar y GIG.

Fe'i harweinir gan yr Athro Karl Hawkins, gyda chydweithwyr o Brifysgol Abertawe a chlinigwyr y GIG, ariennir y prosiect newydd hwn gwerth £1.2M gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol yr UKRI.

Gan ddefnyddio rheoleg - sef astudio sut mae deunyddiau'n llifo ac yn anffurfio - mae'r tîm yn ymchwilio i sut mae tolchenni gwaed yn ymateb i straen, ymagwedd arloesol a arweiniodd at ddarganfod biofarciwr allweddol, a fydd yn arwain y ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o brofion gwaed.

Mae'r prawf yn mesur newidiadau mewn rheoleg yn ystod y broses dolchennu i olrhain hyd oes tolchen yn gywir - o'i ffurfio i'w chwalu - ar lefel nad yw dulliau presennol yn cael ei chyflawni.

Meddai'r Athro Hawkins, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Drwy ddatblygu dulliau rheometreg uwch i ddadansoddi ymddygiad tolchenni gwaed, gallwn bellach greu ac asesu triniaethau newydd mewn ffordd na all unrhyw brawf arall ei wneud, gan agor y drws i strategaethau triniaeth gwell.”

Drwy ddefnyddio technoleg microhylifau, gall ymchwilwyr olrhain chwalu tolchen gwaed mewn amser go iawn ar draws pibelli maint gwahanol, gan gynnig dealltwriaeth bwysig i gynnig triniaethau mwy diogel ac effeithiol.

Meddai Dr Francesco Del Giudice, Athro Cysylltiol yn yr Adran Peirianneg Gemegol a Phennaeth y Labordy Microhylifau Rheolegol sy'n rhan o Grŵp Ymchwil Hylifau Cymhleth Prifysgol Abertawe: "Mae microhylifau'n cynnig dealltwriaeth heb ei hail o ran prosesau dadansoddi tolchenni, gan gynnwys dadansoddiad cynhwysfawr gyda chymwysiadau clinigol yn y byd go iawn."

Ychwanegodd Dr Daniel Curtis, Athro Cysylltiol yn yr Adran Peirianneg Gemegol ac Arweinydd y Labordy Rheometreg Uwch, rhan o Grŵp Ymchwil Hylifau Cymhleth Prifysgol Abertawe: "Mae'r prosiect hwn yn gyfle hynod gyffrous i ddatblygu dulliau rhetrometreg newydd a fydd yn cefnogi ymchwil gofal iechyd ond hefyd newid y ffordd rydym yn astudio deunyddiau eraill sy'n datblygu dros amser.

"Mae hefyd yn wych cael cydweithio â'r tîm yn Sefydliad Technoleg Massachusetts unwaith eto, a fydd yn gweithio gyda ni i fireinio dulliau ar gyfer monitro sut mae tolchenni gwaed a deunyddiau eraill sy'n ddibynnol ar amser yn ffurfio ac yn chwalu.”

Mae'r prosiect hwn yn rhan o fenter gwerth £80 miliwn gan UKRI (EPSRC), sy'n ceisio rhoi hwb i ymchwil gwyddor ddarganfod, gan arwain y ffordd ar gyfer cymwysiadau clinigol a allai effeithio'n uniongyrchol ar ofal i gleifion.

Mae cyflyrau o ran tolchenni gwaed, gan gynnwys strôc, trawiad ar y galon a thrombosis gwythiennau dwfn, oll yn achosion pennaf marwolaeth ac anabledd ledled y byd, gyda miloedd yn mynd i'r ysbyty'n flynyddol.

Meddai Dr Suresh Pillai, Uwch-ddarlithydd mewn Meddygaeth Frys ym Mhrifysgol Abertawe ac Ymgynghorydd Er Anrhydedd mewn Meddygaeth Frys a Meddygaeth Gofal Dwys yn Ysbyty Treforys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, "Mae clefydau sy'n gysylltiedig â tholcenni gwaed yn peri baich sylweddol gynyddol ar y GIG.  Mae triniaethau ar gyfer y cyflyrau hyn yn datblygu, ond mae rhai triniaethau presennol yn dwyn risg o gymhlethdodau, megis gwaedu. Felly, mae angen brys i ddatblygu profion cywir i asesu ymatebion cleifion i ymyriadau therapiwtig newydd.”

Ychwanegodd yr Athro Owen Guy, Pennaeth Adran Gemeg Prifysgol Abertawe: "Dyma enghraifft wych o sut mae ymagwedd ymchwil amlddisgyblaethol a chydweithredol yn rhyngwladol Abertawe'n cyfrannu at dechnoleg newydd o ran tolchenni gwaed. Mae'r prosiect yn ceisio creu effaith ar iechyd yn y dyfodol er budd cleifion y GIG.”

Rhannu'r stori