
Mae Technocamps, rhaglen allgymorth STEM flaenllaw Prifysgol Abertawe, yn dathlu buddugoliaeth ddwbl yng Ngwobrau Addysgwyr STEM SheCanCode, gan gipio'r prif anrhydeddau yn y categorïau Nid-er-elw mewn Addysg STEM a Model Rôl STEM.
Mae'r gwobrau'n cydnabod ymroddiad Technocamps i wneud addysg STEM yn fwy cynhwysol ac ysbrydoli mwy o fenywod a merched i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Mae Technocamps yn rhaglen allgymorth mewn ysgolion, cymunedau a byd diwydiant ledled Cymru. Prifysgol Abertawe yw cartref y rhaglen ond mae ganddi hyb ym mhob prifysgol yng Nghymru.
Ariennir Technocamps gan Lywodraeth Cymru ac mae effaith y rhaglen yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, gan greu llwybrau i ddysgwyr ar bob cam - o fyfyrwyr sy'n archwilio STEM am y tro cyntaf i weithwyr proffesiynol sy'n dymuno datblygu eu sgiliau. Mae ymgysylltu â phobl ifanc a allai fel arall ddatgysylltu o STEM, yn enwedig merched, yn ganolog i'r genhadaeth hon.
Cydnabyddir yn eang bod merched yn cael eu tangynrychioli yn y diwydiannau STEM, ac mae Technocamps yn gweithio i wella'r cydbwysedd drwy ei rhaglen GiST Cymru.
Mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid allanol, mae rhaglen GiST Cymru yn cynnig gweithgareddau amrywiol a diddorol, gan sicrhau bod merched yn cael mynediad at fodelau rôl sy'n eu hysbrydoli a phrofiadau STEM ymarferol. Maent yn falch o gefnogi gweithdai ar gyfer sefydliadau gan gynnwys CyberFirst a Motorsport UK.
Gallwch weld sut gwnaeth Technocamps gydweithio â digwyddiad Motorsport UK 'Girls on Track'.
Mae Technocamps hefyd yn cynnal digwyddiad blynyddol Gala Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, digwyddiad blaenllaw sy'n dathlu cyflawniadau menywod ym maes STEM ledled Cymru a thu hwnt, gan ysbrydoli a galluogi cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r digwyddiad hwn yn dod â dros 200 o westeion o bob cwr o Gymru a thu hwnt ynghyd i ddathlu cyfraniadau a chynnydd menywod, gan ddod yn ddigwyddiad poblogaidd ar galendr cymdeithasol Cymru sy'n cynnig llwyfan pwerus i dynnu sylw at gyflawniadau, rhannu straeon llawn ysbrydoliaeth, a meithrin cymuned gefnogol sy'n ymroddedig i hyrwyddo cydraddoldeb rhyweddol ym maes STEM.
Meddai'r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps: "Mae Technocamps yn croesawu'r rôl y gall prifysgolion, drwy weithio ar y cyd, ei chwarae wrth hyrwyddo cynhwysiant mewn STEM ar lefel genedlaethol. Rwy'n ddiolchgar bod ein hymdrechion dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Addysgwyr STEM SheCanCode."
Ychwanegodd Luke Clement, Rheolwr Gweithrediadau yn Technocamps: "Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi pleidleisio drosom a'n cefnogi - mae eich anogaeth yn ein helpu i barhau i baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol mwy cynhwysol a llawn ysbrydoliaeth i fenywod ym maes STEM. Rydym wrth ein boddau'n gweld ymroddiad diflino ac etifeddiaeth ein noddwr, Beti Williams, yn cael eu dathlu."
Meddai Beti, a enillodd Wobr Model Rôl STEM: "Mae'n anrhydedd i mi dderbyn y wobr hon, ac rwy'n falch iawn bod gwaith tîm Technocamps ledled Cymru hefyd wedi cael ei gydnabod."
Dysgwch sut mae Technocamps yn dylanwadu ar ddyfodol mwy cynhwysol ym maes STEM.