
Cynrychiolwyr o Brifysgol Trent gyda staff Prifysgol Abertawe a myfyrwyr o Trent sy'n astudio yn Abertawe ar hyn o bryd
Mae arweinwyr o un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Canada, sydd wedi bod yn cyfnewid myfyrwyr ag Abertawe fel rhan o bartneriaeth ffyniannus am dros 30 o flynyddoedd, wedi ymweld â'r campws i drafod y ffordd orau o ddatblygu cysylltiadau pellach.
Mae Prifysgol Trent yn brifysgol gyhoeddus sy'n arbenigo yn y celfyddydau rhyddfrydol yn Peterborough, Ontario. Cafodd ei sefydlu ym 1964 ac mae ganddi tua 15,000 o fyfyrwyr. Mae'n cynnig tua chant o raglenni gradd ar draws dau gampws – campws Symons yn Peterborough a champws llai Durham yn Oshawa.
Mae'r Brifysgol wedi'i rhestru yn y 4ydd safle yn nhabl cynghrair prifysgolion israddedig Canada ac mae ganddi gyfradd cyflogaeth graddedigion o 95%.
Ymwelodd Llywydd Trent ac uwch-gydweithwyr eraill ag Abertawe yn ddiweddar, gan gyfarfod â'r Is-ganghellor, Dirprwy Is-gangellorion a chynrychiolwyr o gyfadrannau a gwasanaethau proffesiynol.
Cyfarfu'r cynrychiolwyr o Ganada hefyd â myfyrwyr o Trent sy'n astudio yn Abertawe ar hyn o bryd ac â myfyrwyr o Abertawe a fydd yn mynd i Trent ar raglen gyfnewid yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Abertawe a Trent dros 30 o flynyddoedd yn ôl, gyda llawer o fyfyrwyr o'r ddwy brifysgol yn elwa o ymweliadau cyfnewid.
Dysgwch ragor am bartneriaeth Abertawe a Trent
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Abertawe a Trent wedi datblygu rhaglenni gradd ddeuol yn y gyfraith ac mewn peirianneg gemegol, gydag un newydd yn y gwyddorau meddygol ar y gweill nawr.
Mae myfyrwyr ar y rhaglenni hyn yn treulio eu dwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Trent cyn trosglwyddo i Abertawe naill ai am ddwy neu dair blynedd. Mae pob myfyriwr yn graddio â gradd o bob sefydliad.
At ei gilydd mae 127 o fyfyrwyr o Trent sydd â gradd ddeuol wedi astudio yn Abertawe. Yn y flwyddyn academaidd hon, mae 67 o fyfyrwyr Trent ar raglenni gradd ddeuol yn astudio yn Abertawe.
Arweiniwyd y cynrychiolwyr o Trent gan Dr Cathy Bruce, Llywydd Prifysgol Trent. Yn y grŵp roedd: Dr Mark Skinner, Deon y Celfyddydau a'r Dyniaethau; Dr Devin Penner, Athro Cynorthwyol, Astudiaethau Gwleidyddol a Chydlynydd Rhaglen y Gyfraith Abertawe; Dr Beth Torrens, Athro Cynorthwyol mewn Cymdeithaseg a chydlynydd rhaglen Troseddeg Trent.
Yn ystod yr ymweliad, buont yn trafod â’u cymheiriaid yn Abertawe gydweithrediadau posibl yn y dyfodol a all arwain at gyfleoedd newydd i fyfyrwyr yn Trent ac Abertawe. Mae hyn yn cynnwys rhaglen Dysgu Rhyngwladol Ar-lein Gydweithredol (COIL) newydd - a elwir hefyd yn gyfnewid rhithwir - mewn Troseddeg a fydd yn dechrau'r flwyddyn academaidd nesaf.
Bu Dr Cathy Bruce i gyfarfod arbennig o Grŵp Ymgysylltu Daearyddol Rhanbarthol Gogledd America y Brifysgol. Amlinellodd ei safbwynt ar addysg uwch yng Nghanada mewn sgwrs â'r Athro Lisa Wallace, Deon Cysylltiol Rhyngwladol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd i gynulleidfa o staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol o bob cwr o'r Brifysgol.
Aeth y grŵp hefyd ar daith o amgylch Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a Sefydliad Awen, sy'n canolbwyntio ar bobl hŷn a heneiddio.
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
"Mae Prifysgol Trent yn un o'n partneriaid rhyngwladol allweddol a chyda'n gilydd, rydym yn falch o fod wedi datblygu nifer o raglenni gradd arloesol sy'n cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr i astudio yng Nghanada ac yng Nghymru.
Mae ein partneriaethau strategol rhyngwladol yn hanfodol i weledigaeth Prifysgol Abertawe ar gyfer y dyfodol, ac roedd yn bleser mawr croesawu dirprwyaeth Trent yn ystod eu hymweliad ag Abertawe. Er ein bod yn hapus i fyfyrio ar lwyddiant ein partneriaeth hyd yn hyn, rydym hefyd yn awyddus i archwilio cyfleoedd newydd a fydd yn cyfoethogi ein cymuned academaidd ymhellach ac yn meithrin cyfleoedd newydd i'n staff a'n myfyrwyr."