
Diolch i weledigaeth a chymorth cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe Mr Andrew Shin, bydd y gofod bywiog hwn yn helpu myfyrwyr i gysylltu, dathlu amrywiaeth a meithrin cyfeillgarwch ar draws diwylliannau.
Mae Prifysgol Abertawe wedi agor Lolfa Groeso newydd sbon, lle bywiog a gynlluniwyd i ddod â myfyrwyr ynghyd, dathlu amrywiaeth, a chreu cymuned groesawgar i bawb.
Wedi'i lleoli yn adeilad eiconig y Brifysgol, Tŷ Fulton, bydd y Lolfa Groeso yn fan cyfarfod i fyfyrwyr lleol a rhyngwladol, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau, digwyddiadau a chyfleoedd i gysylltu.
Gall myfyrwyr edrych ymlaen at:
- Caffis Iaith – Ffordd hwyliog o ddysgu ac ymarfer Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg, Tsieinëeg a mwy, dan arweiniad arweinwyr iaith cyfeillgar
- Digwyddiadau a dathliadau diwylliannol – O wrando ar delynor Cymreig i brofi dawns Indiaidd draddodiadol neu ddawnsio Bollywood cyfoes, gall myfyrwyr ymgolli mewn arferion o bob cwr o'r byd
- Digwyddiadau cymdeithasol a rhwydweithio – Cyfleoedd i fyfyrwyr ehangu eu cyfeillgarwch byd-eang a'u cysylltiadau proffesiynol
- Lolfa Groeso dros dro ychwanegol – Sicrhau bod myfyrwyr ar Gampws y Bae’r Brifysgol yn ehangu eu gorwelion.
Mae’r Lolfa yn deillio o weledigaeth Mr Andrew Shin , a raddiodd o'r Brifysgol ym 1989 â gradd mewn Gwyddor Rheolaeth.
Fel myfyriwr rhyngwladol o Hong Kong, roedd Mr Shin yn trysori ei gyfnod yn Abertawe ac mae'n gobeithio helpu cenedlaethau myfyrwyr y dyfodol i feithrin cysylltiadau parhaol, gan eu helpu i ffynnu yn eu hamgylchedd newydd.
Meddai Mr Shin: “Mae Prifysgol Abertawe yn dod â llawer o fyfyrwyr gwahanol o bob cwr o’r byd ynghyd, ac rwy’n credu y byddent i gyd yn elwa o le arbennig, fel y Lolfa Groeso, lle gallant ddysgu am gefndiroedd ei gilydd, o’u cefndiroedd diwylliannol amrywiol i’w harbenigeddau coginio a’u hieithoedd.”
Dychwelodd Mr Shin i Gampws Singleton y Brifysgol i agor y Lolfa yn swyddogol. Gyda cherddoriaeth fyw, arddangosfeydd diwylliannol, a gweithgareddau rhyngweithiol, roedd yn gyfle i weld ei weledigaeth yn cael ei gwireddu.
Roedd nifer o siaradwyr yn y digwyddiad hefyd, gan gynnwys Esmaralda Joseph; yn wreiddiol o Dde Asia, enillodd Esmaralda radd MSc mewn Niwrowyddoniaeth Wybyddol ac mae bellach yn gwirfoddoli ar gyfer Discovery a Digwyddiadau CymdeithasolGO!.
Meddai: “I mi, ac rwy’n siŵr i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol eraill, mae’r Lolfa Groeso yn cynrychioli dathliad o’r cryfder, y dyfalbarhad a’r dewrder anhygoel sydd eu hangen i feddwl a siarad mewn gwahanol ieithoedd ar yr un pryd.
“Ni waeth o ba wlad neu ddinas rydych chi’n dod a pha iaith rydych chi’n meddwl ynddi, mae’r Lolfa yn rhywle lle gallwch chi ddathlu’r dewrder anhygoel wnaeth eich sbarduno i ddod yma.”
Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe: “Diolch i haelioni a chefnogaeth anhygoel Mr Shin, rydym wedi gallu rhoi lle pwrpasol i’n myfyrwyr lle gallant gofleidio hunaniaeth Gymreig y Brifysgol wrth arddangos eu hunaniaeth eu hunain.”
“Mae’r Lolfa Groeso yn fwy na lle yn unig - mae’n symudiad tuag at gynhwysiant, gwerthfawrogiad diwylliannol, a chyfeillgarwch byd-eang. Gobeithiwn y bydd yn helpu myfyrwyr i deimlo'n gartrefol yma, ni waeth a ydyn nhw’n dod o Abertawe neu São Paulo.”