
Mae tri ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi cael eu penodi fel Uwch Arweinwyr Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan ddarparu arweinyddiaeth a gweithredu fel llysgennad ac eiriolwr dros ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.
Mae Uwch Arweinwyr Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ymhlith yr ymchwilwyr iechyd a gofal mwyaf blaenllaw a chlodfawr yn y wlad. Mae gan y rhai a ddewiswyd oll hanes o ddatblygu ymchwilwyr ac adeiladu gallu a chapasiti ymchwil Cymru, yn ogystal ag integreiddio cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil.
Wedi'u rheoli a'u cefnogi gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bydd yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn parhau i neilltuo amser i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau'r Gyfadran, gan gynnwys paneli cyllido, byrddau a phwyllgorau.
Y tri Uwch Arweinydd Ymchwil o Brifysgol Abertawe yw:
- Yr Athro Deborah Fitzsimmons
- Yr Athro Richard Fry
- Yr Athro Rhiannon Owen
Dywedodd Gareth Cross, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth Llywodraeth Cymru: "Gwnaeth cynnydd amgylchedd ymchwil Cymru argraff fawr ar y panel; roedd nifer o aelodau'r panel wedi eistedd ar baneli dyfarnu Uwch Arweinwyr Ymchwil blaenorol a nodwyd fod cynnydd mawr yn cael ei wneud yn hyn o beth. Roedd ystod y ceisiadau'n rhagorol.
"Bydd arbenigedd ac ymroddiad yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn allweddol wrth feithrin arloesedd, cydweithredu a rhagoriaeth yn ein cymuned ymchwil, ac edrychwn ymlaen at weld y cyfraniadau gwerthfawr y byddant yn eu gwneud dros y tair blynedd nesaf."
Ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i weld y rhestr lawn o Uwch Arweinwyr Ymchwil.