Mae'r Ysgol Reolaeth yn darparu amrywiaeth o raddau israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal â chyfleoedd cydweithredol.

Mae'r Ysgol Reolaeth yn darparu amrywiaeth o raddau israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal â chyfleoedd cydweithredol. 

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi ennill achrediad busnes gan yr AACSB, y rhwydwaith a chorff gosod safonau mwyaf yn y byd ar gyfer addysg fusnes.

Yr AACSB yw'r Association to Advance Collegiate Schools of Business. Cydnabyddir achrediad y Gymdeithas fel y safon ansawdd uchaf a dim ond chwech y cant o ysgolion busnes mwyaf blaenllaw'r byd sydd wedi ennill yr achrediad hwn a'r hawl i arddangos y sêl uchel ei bri.

Mae ysgolion sydd wedi'u hachredu gan yr AACSB wedi llwyddo mewn cyfweliad trylwyr a gynhelir gan eu cymheiriaid yn y gymuned addysg fusnes.  Y nod yw sicrhau bod ganddynt yr adnoddau, y cymwysterau a'r ymrwymiad sy'n angenrheidiol i ddarparu addysg fusnes o'r radd flaenaf, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, i'w myfyrwyr.

Mae'r Ysgol Reolaeth yn darparu amrywiaeth o raddau israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal â chyfleoedd cydweithredol.  Mae'n ymfalchïo yn ei hanes o addysgu blaengar ac ymchwil arloesol ac mae ganddi gysylltiadau cryf â byd diwydiant a chyrff achredu proffesiynol

Mae achrediad yr AACSB yn sicrhau gwelliant parhaus ac yn darparu ffocws i ysgolion gyflawni eu gweledigaeth, i arloesi ac ysgogi effaith.

Meddai Andrew Thomas, Deon Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe:

"Rydyn ni mor falch o bawb yn yr Ysgol Reolaeth am y cyflawniad anhygoel hwn.  Mae'r lefel hon o gydnabyddiaeth yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn nhaith yr Ysgol i ddod yn ddarparwr cydnabyddedig ar gyfer addysg fusnes ochr yn ochr â rhai o ysgolion busnes mwyaf blaenllaw'r byd. Da iawn wir i'r holl staff, myfyrwyr, a'r partneriaid am eu gwaith caled a'u hymroddiad sydd wedi gwneud hyn yn bosib.

Mae ein hysgol yn gymuned integredig a chydweithredol o ymarferwyr proffesiynol sy'n ymgymryd ag ysgolheictod, addysg ac arloesi  wedi'u lywio gan ymchwil i rannu gwerth â'n holl randdeiliaid. Ar y cyd â'n myfyrwyr, rydyn ni'n creu profiad sy'n eu galluogi i ddatblygu'n ddinasyddion byd-eang ag ymwybyddiaeth gymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'r Ysgol yn ymrwymedig i gefnogi cenhadaeth ddinesig a diwylliannol y Brifysgol, yng Nghymru ac yn fyd-eang, gan sicrhau bod ein gwaith yn cydweddu â'r nodau datblygu cynaliadwy."

Meddai Stephanie M Bryant, Is-lywydd Gweithredol a Phrif Swyddog Achredu'r AACSB:

"Mae achrediad yr AACSB yn cydnabod sefydliadau sydd wedi dangos pwyslais ar ragoriaeth ym mhob maes, gan gynnwys addysgu, ymchwil, datblygu'r cwricwlwm a dysgu myfyrwyr. Rydyn ni'n llongyfarch Prifysgol Abertawe a'r Deon, yr Athro Andrew Thomas, ar ennill achrediad ac yn canmol y tîm cyfan, gan gynnwys y weinyddiaeth, yr academyddion, y staff a'r myfyrwyr, ar eu rolau wrth ennill yr anrhydedd uchel ei barch hwn.

"Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ennill achrediad yn arwydd go iawn o'i hymroddiad - nid yn unig i'w myfyrwyr, rhwydwaith y cyn-fyfyrwyr a'r gymuned fusnes ehangach, ond i’r diwydiant addysg uwch yn ei gyfanrwydd.  Myfyrwyr heddiw yw arweinwyr y dyfodol, a bydd ychwanegu Prifysgol Abertawe at rwydwaith yr AACSB o ysgolion busnes achrededig yn cael effaith gadarnhaol barhaol ar gyfer ei sefydliad, yn lleol ac yn fyd-eang." 

Rhannu'r stori