Llun pen ac ysgwyddau o ddyn gwyn wedi'i wisgo'n smart yn gwisgo sbectol

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi cael ei gydnabod am ei waith arloesol yn datblygu astudio data iechyd yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r Athro David Ford, Athro Gwybodeg a Chyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi cael ei benodi'n OBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin  i gydnabod ei wasanaethau i wyddor gymdeithasol.

Mae ei waith wedi trawsnewid y defnydd diogel a moesegol o ddata er lles y cyhoedd, yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang, gan alluogi ymchwil ryngddisgyblaethol ar y rhyngwyneb rhwng iechyd a’r gwyddorau cymdeithasol. Drwy ddatgelu gwybodaeth newydd am dueddiadau ar lefel y boblogaeth a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd, mae'r Athro Ford wedi gwella dealltwriaeth yn sylweddol o sut mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ganlyniadau iechyd, gan effeithio ar ymchwil gwyddor gymdeithasol a pholisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Meddai: “Mae derbyn yr anrhydedd hwn yn syndod ac yn bleser mawr i mi . Doeddwn i byth yn meddwl am eiliad y byddwn i yn haeddu'r fath anrhydedd!

“Wrth gwrs, er fy mod i wrth fy modd yn ei dderbyn, rwy’n ymwybodol iawn mai dim ond trwy waith caled ac ymroddiad llawer o gydweithwyr clyfar iawn y bu unrhyw lwyddiannau a oedd yn gysylltiedig â mi dros y blynyddoedd yn bosibl. Rwy'n rhannu'r wobr hon gyda nhw.”

Yr Athro Ford yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), a'r Platfform e-Ymchwil Ddiogel (SeRP), sy'n cynnwys biliynau o gofnodion sy'n seiliedig ar unigolion.  Mae SAIL wedi dod yn fanc data poblogaethau dibynadwy, sy’n gwella bywydau drwy ddarparu data diogel, a dienw y gellir ei gysylltu i ymchwilwyr.

Yn 2024, oherwydd cyfraniad Banc Data SAIL at ddefnyddio data cyhoeddus i wella iechyd a lles y boblogaeth dyfarnwyd Gwobr Pen-blwydd fawreddog y Frenhines i Brifysgol Abertawe.

Mae'r Athro Ford yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol er Hybu'r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach (FRSA). Cafodd ei gynnwys hefyd ar restr DataIQ  o'r 100 o bobl fwyaf dylanwadol mewn data a dadansoddeg ar gyfer 2021.

Bydd yn derbyn ei fedal mewn seremoni arwisgo yn ddiweddarach eleni.

 

Rhannu'r stori