
Dewis Clinigydd Prifysgol Abertawe fel Arweinydd Arbenigeddau cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i helpu i lunio ymchwil yn y dyfodol.
Mae Dr Daniel Obaid wedi cael ei ddewis fel Arweinydd Arbenigeddau newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer materion Cardiofasgwlaidd. Bydd Dr Obaid yn hyrwyddo ac yn cefnogi cyflwyno ymchwil i barhau i adeiladu rhwydweithiau o brif ymchwilwyr o fewn ei arbenigedd a chefnogi'r broses o dderbyn astudiaethau ledled Cymru.
Meddai: “Mae cymuned ymchwil gardioleg dalentog yng Nghymru ac rwy’n gyffrous i gael y cyfle ac i’w cefnogi i barhau i ddarparu ac ehangu’r ymchwil o ansawdd uchel maen nhw’n ei gwneud.”
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae ein Harweinwyr Arbenigol yn hanfodol i hyrwyddo ymchwil ar draws pob portffolio clinigol, gan atgyfnerthu ein dull Cymru'n Un.
"Maent hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ehangu ein gallu ar gyfer ymchwil fasnachol, gyda chefnogaeth cyllid gan y rhaglen Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddygaeth Brand. Ar ben hynny, maent yn cyfrannu'n sylweddol at rwydweithio yng nghyfarfodydd Arweinwyr Arbenigeddau'r DU, gan feithrin ymgysylltiad ar draws rhwydwaith cenedlaethol ehangach."
Ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i weld rhestr lawn Arweinwyr Arbenigeddau Cymru 2025-2028