
Y tîm yn y labordy batris ym Mhrifysgol Limerick yn ystod cyfarfod dechrau prosiect. O'r chwith i'r dde: Yr Athro Tadhg Kennedy (PL), Dr Ashley Willow (PA), Dr Mugilan Narayanasamy (PL), a Dr Marcin Orzech (PA). Credyd: Prifysgol Limerick.
Mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Limerick wedi sefydlu partneriaeth ymchwil arloesol i sbarduno arloesedd ym maes technoleg batris, gan gydweithio ar brosiect a gefnogir gan Gronfa Cynghrair Ymchwil Cymru-Iwerddon.
Mae'r prosiect yn cyfuno arbenigedd Abertawe mewn deunyddiau a dylunio batris â datblygiadau Limerick mewn datblygu cyfansoddion i greu batris metel sodiwm arloesol sy'n osgoi'r angen am drin metel sodiwm yn ystod y cam gweithgynhyrchu. Adwaenir hyn fel ateb "di-anod".
Dywedodd Dr Ashley Willow, Cyd-arweinydd y Prosiect ac Uwch-ddarlithydd Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe: "Drwy ddefnyddio sodiwm—elfen doreithiog sydd ar gael yn helaeth—yn hytrach na lithiwm, gallwn ni ddatblygu batris sy'n haws ac yn fwy costeffeithiol eu cynhyrchu yn ogystal â bod yn barod am y cynnydd sydd ar ddod o ran galw am fatris.
"Gan edrych tua'r dyfodol ym maes technoleg batris, gall batris metel sodiwm di-anod storio a darparu mwy o ynni na batris sefydledig megis ffosffad haearn lithiwm, oherwydd eu dyluniad ysgafn sy'n eu gwneud yn ddelfrydol i'w defnyddio fel batris mewn cerbydau trydan er enghraifft.
"Mae gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Limerick yn ein galluogi i gyflymu'r ymchwil hon, archwilio syniadau newydd ynghylch estyn cylch oes batris di-anod a dod â ni'n nes at y genhedlaeth nesaf o atebion storio ynni glân."
Mae Cronfa’r Gynghrair Ymchwil wedi dyfarnu €73,155 i'r fenter rhwng Abertawe a Limerick fel rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth €584,378 sy'n cefnogi wyth prosiect cydweithredol ar y cyd rhwng Cymru ac Iwerddon.
Dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: "Rydym eisiau creu dyfodol dynamig ar ein cyfer, gan hyrwyddo arloesedd a thechnolegau newydd i gefnogi Cymru wyrddach, ynghyd â swyddi gwell, iechyd gwell a ffyniant i bawb. Mae'r cyllid gan Gronfa’r Gynghrair Ymchwil yn gyfle gwych i sefydliadau academaidd yng Nghymru ac Iwerddon feithrin partneriaethau newydd gyda'r nod o fynd i'r afael â heriau cymhleth gyda chymorth gan y llywodraeth—yn unol ag uchelgeisiau datganiad ar y cyd Cymru-Iwerddon a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021 tan 2025."
Ychwanegodd yr Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae ail-gysylltiad y DU â Horizon Ewrop yn 2024 yn gyfle gwych i ymchwilwyr o Gymru fod yn rhan o raglen cydweithrediad ymchwil fwyaf y byd. Mae'r rhaglen ar y cyd hon rhwng Rhwydwaith Arloesi Cymru a Taighde Éireann – Research Ireland yn darparu cymorth i ymchwilwyr o Gymru feithrin cysylltiadau newydd a chryfhau partneriaethau presennol â'u cydweithwyr yn Iwerddon. Rwyf yn falch bod WIN yn gallu hwyluso'r fenter hon i arddangos rhagoriaeth ymchwil yng Nghymru ar lwyfan rhyngwladol ac adeiladu cydweithrediadau i fynd i'r afael â heriau byd-eang."
Mae prosiect Abertawe-Limerick yn cefnogi gwydnwch ynni hirdymor a chynaliadwyedd diwydiannol ar draws Cymru ac Iwerddon.
Disgwylir i'r farchnad fyd-eang am fatris dyfu'n gyflym yn ystod y degawd sydd i ddod a bydd yr arloesiadau hyn yn sefydlu'r ddwy genedl fel arweinwyr ym maes ynni glân ac yn cryfhau eu gallu i gystadlu am ragor o gyllid Ewropeaidd dan Horizon Ewrop.
Dywedodd Dr Ibrahim Aminu, Cyd-arweinydd y Prosiect a Phrif Ymchwilydd ym Mhrifysgol Limerick: "Yn ogystal â chefnogi datblygiad technoleg batris, mae'r prosiect hwn yn gosod y sylfeini ar gyfer partneriaeth strategol hirdymor rhwng Abertawe a Limerick, un sy'n gallu mynd i'r afael â heriau cymdeithasol wrth gryfhau arloesi rhanbarthol."