
Llun: Ren Williams.
Mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal ymarfer hyfforddi i efelychu digwyddiad mawr i fyfyrwyr parafeddygaeth blwyddyn olaf ar Gampws Singleton a oedd hefyd yn cynnwys staff ac aelodau o Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) gan efelychu damwain mewn ffatri sy'n arwain at anafiadau lluosog.
Mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal ymarfer hyfforddi i efelychu digwyddiad mawr i fyfyrwyr parafeddygaeth blwyddyn olaf ar Gampws Singleton a oedd hefyd yn cynnwys staff ac aelodau o Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) gan efelychu damwain mewn ffatri tân gwyllt sy'n arwain at anafiadau lluosog.
Dyluniwyd y senario yn ofalus i ddarparu amgylchedd realistig gyda golygfeydd ac anafiadau manwl gywir, gyda'r nod o wella sgiliau'r myfyrwyr wrth frysbennu, cludo a rheoli cleifion yn ystod digwyddiadau mawr.
Meddai Matt Waters, sy'n Ddarlithydd ar y BSc Gwyddor Barafeddygol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ac yn gyd-drefnydd yr ymarfer:
"Un o'r agweddau mwyaf gwerthfawr ar yr ymarfer hwn yw'r cyfle i'n myfyrwyr parafeddygaeth gael profiad ymarferol o'r gallu i ryngweithredu. Mae gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau brys eraill yn rhoi dealltwriaeth uniongyrchol i'n myfyrwyr o sut mae ymatebion aml-asiantaeth cydgysylltiedig yn gweithredu mewn digwyddiadau mawr. Mae deall rôl pob asiantaeth a chyfathrebu'n effeithiol ar draws ffiniau asiantaethau yn hanfodol mewn unrhyw sefyllfa argyfwng, ac mae'r ymarfer hwn yn atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithredu da.
"Mae paratoi ar gyfer rôl y parafeddyg yn ymwneud â mwy na sgiliau clinigol yn unig. Mae'n ymwneud â meddwl yn glir o dan bwysau, rheoli adnoddau prin, blaenoriaethu gofal, a chynnal proffesiynoldeb mewn amgylcheddau anhrefnus. Mae'r ymarfer hwn yn gosod myfyrwyr yn yr union amodau hynny, ond drwy efelychu'r sefyllfa mae hynny'n rhwyd ddiogelwch iddynt, gan helpu i feithrin eu hyder, eu gwydnwch a'u gallu i arwain pan fo gwir angen.
"Y mathau hyn o brofiadau ymarferol ac ymdrochol sy'n gwneud ein rhaglen yn Abertawe mor effeithiol. Maent yn sicrhau y bydd ein myfyrwyr yn gymwys yn glinigol pan fyddant yn cymhwyso, a byddant hefyd yn barod i weithio fel rhan o dîm ymateb brys ehangach, â dealltwriaeth gref o'r gofynion yn y byd go iawn y byddant yn eu hwynebu."
Ychwanegodd yr Athro Jayne Cutter, Pennaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae ymyrryd yn gynnar ac yn effeithiol yn gwella canlyniadau cleifion yn sylweddol, a bydd y profiad hwn yn magu hyder ein myfyrwyr i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiad mawr go iawn. Mae ymarferion hyfforddiant fel y rhain yn hynod fuddiol i'n myfyrwyr wrth iddyn nhw baratoi i fod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y dyfodol. Maen nhw'n mynd law yn llaw â'r cyfleoedd efelychu a dysgu ymdrochol presennol sy'n tanategu holl hyfforddiant ein hymarferwyr gofal iechyd proffesiynol yma yn Abertawe.
Dywedodd Scott Evans, myfyriwr parafeddygaeth o’r Rhondda sydd yn y drydedd flwyddyn, am yr ymarfer:
"Rhoddodd syniad da iawn o'r hyn allai ddigwydd wrth weithio fel parafeddyg. Yn ystod yr ymarfer, gwnaeth fy nghydweithwyr weithio'n dda iawn gyda'i gilydd, ac roedd hi'n braf cael y cyfeillgarwch a'r cyfathrebu. Dwi'n meddwl ei bod hi'n hanfodol cael y profiad ymarferol hwn yn y brifysgol, achos, fel myfyrwyr y drydedd flwyddyn, byddwn ni'n cymhwyso mewn ychydig wythnosau. Mae hefyd yn hollbwysig bod y myfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd wedi helpu heddiw yn gweld y safon bydd angen iddyn nhw ei bodloni yn y dyfodol."