Golwg o'r tu allan i adeilad CISM a ddyluniwyd fel hirsgwar du a gwyn.

Mae Prifysgol Abertawe a Space Forge, sy'n arloeswyr mewn gweithgynhyrchu deunyddiau uwch yn y gofod a thechnoleg ddychwelyd, wedi llofnodi cytundeb pwysig.

Mae hyn yn golygu mai Space Forge fydd y cwmni cyntaf i symud i'r Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol, lle bydd yn ymgymryd â gwaith blaengar ym maes gweithgynhyrchu mewn microddisgyrchiant - yr amodau bron yn ddibwysau a geir yn y gofod.

Yn ôl y cytundeb newydd, Space Forge o dde Cymru fydd cleient deori cyntaf CISM, gan elwa o ystafell lân ddynodedig, man deori a mynediad at ystod lawn o offer prosesu a nodweddu lled-ddargludyddion.

Mae Space Forge yn arwain y ffordd drwy gynhyrchu deunyddiau lled-ddargludol gwerth uchel sy'n deillio o hadau haenellau lled-ddargludo a dyfir mewn microddisgyrchiant. Yn CISM, byddant yn dechrau datblygu eu gallu i gynhyrchu ar raddfa ehangach ar y ddaear, gan ganolbwyntio ar electroneg pŵer bwlch band eang sy’n gallu gwrthsefyll ymbelydredd (megis SiC, GaN, Ga203) a datblygu offer tyfu mewn microddisgyrchiant. 

CISM yw cyfleuster ymchwil, datblygu ac arloesi diweddaraf y DU ym maes lled-ddargludyddion a buddsoddwyd £55 miliwn ynddo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Cafodd ei gynllunio'n unigryw at ddiben trosi prosiectau o raddfa beilot i weithgynhyrchu a deori cwmnïau newydd. 

Hyd yn hyn, mae CISM wedi canolbwyntio ar ynni glân, pŵer effeithlon a microelectroneg, lled-ddargludyddion mewn gofal iechyd a lled-ddargludyddion datblygol. Gyda’r cytundeb hwn, mae’r Ganolfan yn ehangu i ddatblygu technoleg lled-ddargludyddion i'w defnyddio yn y gofod.

Mae CISM yn rhan o ecosystem lled-ddargludyddion uwch CSconnected yn ne Cymru. Dyma glwstwr cyntaf Ewrop ar gyfer gweithgynhyrchu ac arloesi lled-ddargludyddion cyfansawdd uwch, ac mae'n cynnwys cwmnïau amlwladol megis Vishay, Microchip, KLA ac IQE, ochr yn ochr â chymuned gynyddol o fusnesau bach a chanolig a mentrau newydd megis Space Forge. Fe'i cefnogir drwy arloesi gan Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd, CSA Catapult, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a chaiff ei gydlynu gan CSconnected.

Meddai'r Athro Paul Meredith, Cyfarwyddwr CISM:

"Rydyn ni wrth ein boddau'n croesawu Space Forge i CISM. Mae deori busnesau bach a chanolig a mentrau newydd yn rhan o'n cenhadaeth graidd. Bydd Space Forge yn elwa o fynediad llawn i'n labordy o'r radd flaenaf ond bydd hefyd yn rhan o gymuned fywiog o ymchwilwyr, cwmnïau, arloeswyr ac entrepreneuriaid ym maes lled-ddargludyddion. Gobeithiwn y bydd y cyfleusterau rhagorol a'r amgylchedd deallusol yn CISM yn helpu i dyfu busnes Space Forge yn gyflymach ac yn eu galluogi i fasnacheiddio’n fwy effeithlon.”

Wrth sôn am y cyfleusterau, meddai Dr Alastair McGibbon, Pennaeth Lled-ddargludyddion yn Space Forge:

"Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gleient deori cyntaf CISM, â mynediad at eu cyfleusterau ystafell lân o'r radd flaenaf a'u hoffer lled-ddargludol arloesol.

"Mae'r bartneriaeth hon yn rhoi i Space Forge yr isadeiledd hollbwysig sydd ei angen i ddatblygu ein gwaith mewn gweithgynhyrchu yn y gofod ac ehangu ar y ddaear. Gyda mynediad llawn, rydyn ni bellach mewn sefyllfa gryfach byth i ysgogi arloesi - gan ein galluogi i barhau i arwain gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion yn gyflym."

Rhannu'r stori