Astudiodd Tom Taylor (chwith) a Jordan Smith (de) am radd BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe, ac yna radd Meistr trwy Ymchwil mewn Gwyddor Chwaraeon. Maent bellach yn brif Hyfforddwyr Perfformiad Corfforol yng Nghlwb Pêl-droed Chelsea a West Ham United.

Astudiodd Tom Taylor (chwith) a Jordan Smith (de) am radd BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe, ac yna radd Meistr trwy Ymchwil mewn Gwyddor Chwaraeon.  Maent bellach yn brif Hyfforddwyr Perfformiad Corfforol yng Nghlwb Pêl-droed Chelsea a West Ham United.

Efallai bod Chelsea a West Ham yn gystadleuwyr Uwch-gynghrair o ochrau cyferbyniol Llundain, ond un peth sy'n gyffredin i'r ddau glwb, yw mai graddedigion gwyddor chwaraeon Abertawe sydd â'r dasg o gael dynion eu timau cyntaf i gyrraedd brîg eu ffitrwydd corfforol.

Astudiodd Tom Taylor a Jordan Smith am radd BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe, ac yna radd Meistr trwy Ymchwil mewn Gwyddor Chwaraeon.

Maent bellach yn brif Hyfforddwyr Perfformiad Corfforol yng Nghlwb Pêl-droed Chelsea a West Ham United.

Yn Abertawe roedden nhw mewn adran sydd wedi gweithio'n helaeth gydag athletwyr elît a phroffesiynol, o bêl-droed a rygbi i Fformiwla 1.  Bu eu hastudiaethau'n sail academaidd drylwyr iddynt yn y pwnc, ynghyd â phrofiad ymarferol gan gynnwys cael lleoliadau gyda chlybiau pêl-droed proffesiynol.  Bu'r cyfuniad hwn yn hwb i'w cyflogadwyedd gan lansio llwybrau gyrfa'r ddau tuag at yr Uwch-gynghrair.

Mae nhw'n gyfrifol yn eu clybiau am gyflwyno rhaglen perfformiad corfforol i garfan Tîm Cyntaf y Dynion, gan oruchwylio tîm o hyfforddwyr perfformiad corfforol.

Ar ôl graddio, gweithiodd Tom Taylor gyda chlybiau pêl-droed o’r radd flaenaf yn Lloegr a’r Alban, gan gynnwys Glasgow Rangers, Heart of Midlothian, Brighton and Hove Albion a West Ham United, cyn cymryd y rôl flaenllaw yn Chelsea.

Meddai Tom Taylor:

“Roedd astudio Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe’r wedi gosod sylfaen ar gyfer fy ngyrfa mewn chwaraeon proffesiynol.Rhoddodd y darlithoedd ddealltwriaeth gadarn o'r wyddoniaeth sy’n sail i berfformio a daeth y sesiynau labordy â phethau'n fyw ynghyd â gwella ein sgiliau ymarferol.

Ar ôl cwblhau fy ngradd, parheais i astudio yn Abertawe am radd MSc trwy ymchwil, dan oruchwyliaeth yr Athro Kilduff, ar y cyd â lleoliad blwyddyn o hyd gyda West Ham Utd.Fe wnaeth hyn ganiatáu i mi ganolbwyntio o ddifri ar  heriau perfformiad penodol ym maes pêl-droed proffesiynol. Drwy gymorth fy MSc, fe alluogodd hynny i mi ddatblygu atebion perfformiad pwrpasol”.

Ar ôl graddio, dechreuodd Jordan Smith ei yrfa gyda swydd yn nhîm perfformiad Dinas Abertawe cyn symud i dîm Uwch-gynghrair Brighton a Hove Albion lle bu’n gweithio gyda’r tîm cyntaf.  O'r fan honno, symudodd i West Ham i gymryd y rôl arweiniol.

Meddai Jordan Smith:

“Fe wnaeth fy amser yn Abertawe gryfhau fy awydd i weithio mewn chwaraeon elît. Rhoddodd y radd y sgiliau damcaniaethol ac ymarferol i mi lwyddo yn y maes hynod gystadleuol hwn.Drwy gydol fy amser yno rhoddodd yr adran a'r staff bwyslais mawr ar bob elfen ar ddatblygu gyrfa. Wrth gael lleoliad gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, daeth hyn â phob dim yn fyw.Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i chael drwy gydol fy ngyrfa gan staff allweddol yn dangos pa mor angerddol y mae nhw am barhau i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o Wyddonwyr Perfformiad".

Mae llawer o raddedigion eraill o Brifysgol Abertawe sydd wedi astudio gwyddor chwaraeon hefyd wedi cael hwb i'w rhagolygon cyflogadwyedd.  Er enghraifft, mae pob un o'r myfyrwyr a ddilynodd yr MSc mewn gwyddor chwaraeon wedi canfod rolau yn y sector, o chwaraeon proffesiynol i adrannau chwaraeon ysgolion.

Meddai'r Athro Liam Kilduff o adran gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff Prifysgol Abertawe:

“Mae Jordan a Tom yn ddwy enghraifft wych o gyn-fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn chwaraeon elît.

Mae ein gradd israddedig yn gosod sylfaen gref iawn i'n myfyrwyr ac mae ein MSc a lansiwyd yn ddiweddar mewn Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch yn datblygu ymhellach y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ragori mewn chwaraeon proffesiynol.Yn yr un modd, mae gan fyfyrwyr sy’n angerddol am wyddor ymarfer corff yr un cyfleoedd a datblygiad wrth astudio yma.

Fel adran rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein gallu i ddatblygu myfyrwyr cyflawn ac addysgedig a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y diwydiant.

Yn ddiweddar rydym wedi lansio cyfres newydd o raglenni Meistr sy'n canolbwyntio ar anghenion ein diwydiant.Er enghraifft, mae ein MSc newydd mewn Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch yn defnyddio ein hymchwil gwyddor perfformiad o'r radd flaenaf ac wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â'n partneriaid diwydiannol.

Mae'r MSc hon yn cynnig lleoliad blwyddyn o hyd mewn sefydliad chwaraeon elît.Felly nid yn unig y mae'r myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan academyddion ac ymarferwyr blaenllaw yn y byd,  maen nhw hefyd yn ymgorffori'r wybodaeth hon mewn profiadau ymarfer cymhwysol wrth gael eu mentora gan ymarferwyr cymhwysol profiadol.”

Rhannu'r stori