Dyn gwyn wedi'i wisgo'n ffurfiol, yn pwyso yn erbyn offer labordy, yn edrych ar y camera.

Mae llawfeddyg plastig o Brifysgol Abertawe sy'n cyfuno addysgu ac ymchwil arloesol â'i ddyletswyddau clinigol wedi cael ei gydnabod ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.

Mae'r Athro Iain Whitaker yn meddu ar Gadair Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae hefyd yn llawfeddyg plastig ymgynghorol anrhydeddus yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys.

Cafodd OBE i gydnabod ei wasanaethau i lawfeddygaeth blastig (yn glinigol, ymchwil a hyfforddiant).

Meddai'r Athro Whitaker fod hon yn fraint fawr iddo. "Rwy'n ddiolchgar i gael cydnabyddiaeth am fwy nag 20 mlynedd o waith ym maes arbenigedd llawfeddygaeth blastig a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'm henwebiad a chydnabod bod hyn hefyd yn adlewyrchu cyflawniadau a chyfraniadau'r sefydliadau, y cymunedau a'r unigolion yr wyf yn gweithio gyda nhw.

"Fy nod yw gweithio'n ddiflino i ymchwilio i ffyrdd o wella gofal cleifion, wrth adeiladu tîm amlddisgyblaethol ac ysbrydoli'r llawfeddygon mwyaf disglair a'r rhai gorau mewn hyfforddiant i ddod i Gymru a chodi proffil y genedl."

Ar ôl astudio meddygaeth yn Neuadd y Drindod, Caergrawnt, ac arbenigo mewn llawfeddygaeth blastig, adluniol ac esthetig, hyfforddodd yn y DU, yr Iseldiroedd, Sweden, UDA, Awstralia a Ffrainc a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Llawfeddygaeth Blastig iddo gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon. Yn 36 oed yntau fu'r athro ieuengaf o unrhyw ddisgyblaeth llawfeddygaeth yn y DU pan gafodd ei benodi'n Athro cyflawn ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn 2012, yr Athro Whitaker fu cyfarwyddwr sefydlu Canolfan Ymchwil ReconRegen, yn y Brifysgol sydd wedi dod â mwy nag 20 o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol ynghyd. Yn 2022, agorwyd rhaglen ymchwil gwerth £2.5 miliwn yn y ganolfan, a ariannwyd gan y Sefydliad Scar Free ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn swyddogol gan Dduges Wessex ar y pryd

Ar hyn o bryd mae'n arwain y prosiect ymchwil 3D Bioface gwerth £2.07 miliwn, sy'n arloesi technegau bioargraffu 3D i greu cartilag ar gyfer adlunio'r wyneb gan ddefnyddio celloedd dynol mewn cyfuniad â bio-inc naturiol. Mae'r gwaith hwn wedi'i gwblhau ochr yn ochr â'r astudiaeth fyd-eang fwyaf o faich corfforol a seicolegol creithiau wyneb.

Ymhlith ei rolau proffesiynol, roedd yr Athro Whitaker yn Arweinydd Arbenigedd Llawfeddygol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r person cyntaf yn y DU i gael ysgoloriaeth academaidd ar y cyd gan Gymdeithas Llawfeddygon Plastig America a Chymdeithas Llawfeddygon Plastig Ewrop i sefydlu cydweithrediad ag Ysgol Feddygol Harvard.

Mae ef hefyd wedi cyhoeddi mwy na 300 o bapurau a phum llyfr a bod yn aelod o sawl bwrdd golygyddol i gyfnodolion.

 

Rhannu'r stori