Clawr blaen Inspiring Wealth Creators.

Mae Cymru wedi ysgogi arloesedd am ganrifoedd - o'r arloeswr copr, Robert Morris, i'r meistr ym maes technoleg, Syr Terry Matthews. Nawr, bydd llyfr newydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr a fydd yn llywio dyfodol y rhanbarth.

Mae Inspiring Wealth Creators gan yr Athro Kenneth Board yn rhannu hanesion 38 o bobl ddylanwadol - entrepreneuriaid, arweinwyr busnes a gweledyddion - sydd oll â chysylltiad â’r Brifysgol, Dinas Abertawe, a De Cymru.

Fel myfyriwr graddedig Prifysgol Abertawe ac entrepreneur, mae'r Athro Board yn cynnig mewnwelediad unigryw i'r unigolion nodedig hyn.

Dywedodd yr Athro Board, sy'n Athro Emeritws yn Adran Peirianneg Electronig a Thrydanol Prifysgol Abertawe: "Ers tro byd, entrepreneuriaid fu asgwrn cefn esblygiad economaidd Cymru, gan drawsnewid syniadau mentrus yn ddiwydiannau parhaol. Mae Inspiring Wealth Creators yn dathlu'r ysbryd hwn - mae'n arddangos penderfyniad, dyfeisgarwch, ac effaith y rhai hynny sydd wedi llunio tirwedd fusnes y rhanbarth."

Mae'r llyfr hwn yn fwy na dathlu llwyddiant, mae'n pontio cenedlaethau ac yn arddangos sut y mae arloeswyr y gorffennol yn parhau i ysbrydoli arweinwyr busnes y dyfodol yng Nghymru.

Un enghraifft hynod sydd wedi'i chynnwys yw CSconnected, clwstwr arloesol o led-ddargludyddion sy'n uno ymchwilwyr, busnesau a llunwyr polisi er mwyn cyflymu datblygiad technolegol.

Mae myfyrwyr - gan gynnwys rhai o Brifysgol Abertawe - yn chwarae rhan hanfodol, wrth gyfrannu eu sgiliau a'u gweledigaeth entrepreneuraidd at lwyddiant hirdymor y clwstwr arloesol o led-ddargludyddion.

Yn ei lyfr, dywedodd yr Athro Board: "Mae cyfranogiad myfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig...yn helpu i recriwtio staff profiadol a safonol er mwyn i'r clwstwr dyfu, ond mae hefyd yn arwain at y posibilrwydd y bydd rhai ohonynt yn ystyried bod yn entrepreneuriaid.

"Llwyddiant y clwstwr yn y dyfodol, sef i fod yn llwyddiannus ar raddfa fawr, a phrif thema'r llyfr hwn, yw bod ailgyflenwi ac adnewyddu parhaus ar waith yn yr hirdymor."

Mae un o'r entrepreneuriaid sydd wedi'i gynnwys yn y llyfr hwn, Dr David O'Brien, yn atgyfnerthu'r syniad hwn, gan bwysleisio pwysigrwydd paratoi'r genhedlaeth nesaf.

Dywedodd Dr O'Brien, sy'n fyfyriwr graddedig o Brifysgol Abertawe ac yn gyn-weithredwr technoleg yn Silicon Valley: "Mae angen i gyfran o adnoddau'r holl raglenni addysgol ar gyfer pob oed a lefel gael ei neilltuo i ymchwilio ac addysgu 'y dyfodol'. Bydd meddwl yn agored, hyblygrwydd a mabwysiadu'r wybodaeth hon yn gynnar yn elfennau hanfodol ar gyfer cymdeithas yn gyffredinol."

Cafodd Inspiring Wealth Creators, a gyhoeddwyd gan Native Book Publishing, ei lansio yng Nghanolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) Prifysgol Abertawe.

Mae'r llyfr, a ddylai gael ei ddarllen gan arloeswyr ac arweinwyr busnes sy'n ffurfio cyfnod nesaf twf economaidd yng Nghymru, ar gael ar Amazon nawr.

 

Rhannu'r stori