Cardiau o gêm fwrdd Legless in London.

Cardiau o gêm fwrdd Legless in London, sy’n arf hwyliog a deniadol i helpu chwaraewyr i brofi bywyd fel colli aelod o’r corff a myfyrio ar sut mae pobl anabl yn cael eu trin ac yn cael eu trin mewn cymdeithas

Mae gêm fwrdd o'r enw Legless in London, sy'n seiliedig ar ymchwil gan Brifysgol Abertawe, sy'n dod ag anabledd, diwylliant a hanes yn fyw mewn ffordd ystyrlon a hygyrch, wedi'i chyhoeddi fel enillydd yng Ngwobrau Games for Change 2025 yn Efrog Newydd.

Mae'r gêm yn galluogi chwaraewyr i gael profiad o'r heriau a’r cyfleoedd yr oedd pobl y trychwyd eu his-aelodau yn eu hwynebu yn Llundain Fictoraidd.

Drwy'r gêm, mae pob chwaraewr yn chwarae fel trychedig ac yn ceisio cyflawni nodau bywyd fel prynu eiddo, dod o hyd i gariad neu gyflawni uchelgeisiau personol. Mae chwaraewyr yn llywio eu ffordd drwy strydoedd Fictoraidd, y farchnad aelodau prosthetig, y clafdy, a lleoliadau amrywiol sy'n rhoi cyfleoedd iddynt gyflawni eu nodau.

Mae'r gêm yn seiliedig ar ymchwil gan Dr Ryan Sweet, arbenigwr mewn hanes anabledd, a chan ei lyfr Prosthetic Body Parts in Nineteenth-Century Literature and Culture. Mae llawer o gymeriadau, aelodau prosthetig, lleoliadau, a senarios y gêm yn cael eu hysbrydoli gan ei ymchwil yn yr adran hanes Prifysgol Abertawe.  Bellach mae Dr Ryan Sweet yn Ddarlithydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Plymouth.

Mae'r Gwobrau Games for Change blynyddol yn ddathliad o'r gemau sy'n ceisio gwella'r cyfrwng gan wthio ffiniau gemau gyda syniadau arloesol newydd, cyfeiriadau artistig ffres a negesu cymdeithasol cadarnhaol.

Cafodd Legless in London ei chyhoeddi fel enillydd y wobr Best Board or Tabletop Game yn y categori Effaith.  Cafod ei chyhoeddi mewn seremoni yn Efrog Newydd. Cynhyrchir y gêm gan Focus Games ar y cyd â Dr Sweet a Phrifysgol Abertawe.

Gwnaeth y tîm ddylunio’r gêm mewn ffordd gynhwysol, gan ymgysylltu'n agos â grŵp ffocws o aelodau'r gymuned anabl, gan gynnwys Celfyddydau Anabledd Cymru.

Mae hygyrchedd hefyd wrth wraidd y dyluniad gyda nodweddion fel:

  • Rheolau hawdd eu deall.
  • Ffontiau hygyrch mawr a gwahaniaethiad deuol ar ddarnau'r gêm.
  • Capsiynau fideo er mwyn esbonio, a fersiynau digidol o asedau'r gêm sy'n addas i ddarllenwyr sgrîn ar gael drwy godau QR a www.leglessinlondon.com
  • Ap am ddim sy'n lleihau deheurwydd, rhifedd a gofynion y gêm i chwaraewyr.

Meddai Dr Ryan Sweet, dylunydd Legless in London:

"Nod y gêm yw rhoi cynrychioliadau mwy cadarnhaol a chynnil o bobl anabl ac anabledd mewn gemau pen bwrdd.

Bu hanes anabledd heb ei gynrychioli'n ddigonol mewn gemau pen bwrdd hyd yn hyn ac, yn yr ychydig gemau lle mae pobl anabl yn cael eu portreadu, mae'r rhain yn aml yn broblemus. Mae gan lawer o gemau presennol heriau hygyrchedd i chwaraewyr anabl.

Bydd y gêm yn ffordd hwyl a gafaelgar o helpu chwaraewyr i brofi bywyd fel trychedig a myfyrio ar sut roedd pobl anabl ac yn cael eu trin mewn cymdeithas a sut maent yn cael eu trin heddiw.

Ers i ni ryddhau'r gêm ym mis Chwefror, rydym wedi ymgysylltu â dros 170 o chwaraewyr drwy ddigwyddiadau lansio, ac rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol syfrdanol.

Yn dilyn llwyddiant Legless in London, mae Dr Sweet a Focus Games yn cydweithio i greu cyfres o ganllawiau dylunio cynhwysol i lunwyr gemau bwrdd.

Mae Legless in London wedi cael ei rhyddhau a gellir ei harchebu ymlaen llaw cyn ei danfon ym mis Chwefror 2025. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.leglessinlondon.com

Mae Legless in London wedi’i chreu a'i marchnata dan gytundeb masnachol rhwng Prifysgol Abertawe a Focus Games Ltd.  Fe'i cefnogwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

 

Rhannu'r stori