Llun allanol o Gaerdydd yn cynnwys Adeilad Pierhead brics coch ochr yn ochr ag adeilad modern y Senedd

Ymchwil yn ystyried sut y gall cymunedau gydweithio i sicrhau newid cadarnhaol.

Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau'n cydweithio i fynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas.

Mae Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) wedi sicrhau cyllid o £1.6m gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yr UKRI ar gyfer y rhaglen ymchwil tair blynedd, Pobl, Lleoedd a'r Maes Cyhoeddus. 

Bydd y rhaglen, sy’n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, yn edrych ar ffyrdd y gall cyfranogiad pobl mewn gweithgareddau democrataidd, llywodraethu cydweithredol a gwyddoniaeth y dinesydd fynd i'r afael â chyd-heriau brys. 

Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair thema ymchwil:

  • Gweithleoedd a democratiaeth gyfranogol Bydd yn canolbwyntio ar yr Agenda Gwaith Teg, gan gynnwys y cynnydd y mae Cymru'n ei wneud i symud tuag at fod yn Genedl Gwaith Teg.
  • Hawliau, ffoaduriaid a chymunedau ar y cyrion Bydd yn archwilio rôl sefydliadau cymdeithas sifil wrth gefnogi ffoaduriaid a goruchwyliaeth y wladwriaeth ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
  • Llywodraethu cydweithredol a gwleidyddiaeth gydgynghorol Bydd yn edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi dinasyddion i ymgysylltu’n gydweithredol wrth lunio polisïau ac i atal polareiddio.
  • Economïau lleol ac arloesedd yn seiliedig ar le Bydd yn edrych ar ffyrdd o gynnwys actorion economaidd wrth ddatblygu arweinyddiaeth, gwytnwch a chyfalaf lleol i gefnogi twf economaidd. 

Caiff y themâu hyn eu cefnogi drwy ddatblygu Lab Data WISERD sy'n seiliedig ar leoedd ac sy'n ymwneud â'r cyhoedd. Bydd hyn yn cefnogi casglu data dan arweiniad y gymuned i alluogi dinasyddion, cymunedau a llunwyr polisïau i chwarae eu rhan mewn prosiectau cyd-gynhyrchu. 

Bydd canlyniadau'r ymchwil yn cyfrannu at bolisi ac arferion sy'n galluogi dinasyddion i gyfranogi’n llawn, yn dyfnhau'r ymwneud â gwyddoniaeth y dinesydd, ac yn y pen draw, yn galluogi cymunedau lleol i ddefnyddio asedau ac adnoddau mewn ymateb i heriau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol. Bydd WISERD hefyd yn parhau i ehangu ei rwydweithiau ymchwil ryngwladol a chymdeithas sifil. 

Dywedodd y prif ymchwilydd a chyd-gyfarwyddwr WISERD Rhys Davies: "Mae ymchwil ryngddisgyblaethol WISERD eisoes wedi cael effaith enfawr ar y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y cyllid newydd hwn yn ein galluogi i ehangu a chryfhau'r gwaith ymhellach fyth, yn seiliedig ar egwyddorion cyd-gynhyrchu, cydweithio a gwyddoniaeth y dinesydd, wrth i ni weithio'n ddyfnach gyda'n rhwydweithiau o bartneriaid cymdeithas sifil sydd ar gynnydd." 

Bydd tîm WISERD Prifysgol Abertawe, dan arweiniad yr Athro Nigel O'Leary a Dr Matthew Wall yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn arwain ymchwil ac ymarfer arloesol ar y croestoriad rhwng adnewyddu democrataidd ac economaidd.  

Mae'r ffocws hwn yn cyd-fynd yn agos â chryfderau ymchwil Prifysgol Abertawe, ac yn adlewyrchu ei hymrwymiad i hyrwyddo ysgolheictod effeithiol a hybu newid yn y byd go iawn. Mae cysylltiad dwfn hefyd â Chenhadaeth Ddinesig y Brifysgol, sy'n atgyfnerthu ei hymroddiad i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol a meithrin ymgysylltu cymunedol. 

Dywedodd cyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol Abertawe a Phennaeth yr Adran Economeg, yr Athro Nigel O'Leary: “Yn yr ymchwil aml-thema a thrawsddisgyblaethol hon, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu polisïau sy'n gwella datblygiad economaidd cynhwysol, yn lleihau gwendidau, ac yn meithrin ffurfiau o gyfalaf cymunedol fel cyfrwng ar gyfer twf economaidd a chymdeithasol. 

“Bydd hwn yn gyfle cyffrous i lunio a chyflwyno set uchelgeisiol o becynnau gwaith ag effeithiau pellgyrhaeddol a chanlyniadol ar draws economeg, addysg a pholisi cymdeithasol.” 

Ychwanegodd Dr Matthew Wall, sydd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr ym Mhrifysgol Abertawe a Phennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol: “Drwy'r gwaith hwn, y nod yw pontio ymchwil academaidd gydag atebion ymarferol sy'n grymuso cymunedau ac yn gwella cyfranogiad democrataidd wrth ymdrin â heriau economaidd pwysig.”

 

Rhannu'r stori