
Siarc gwyn cefnforol yn nofio gyda haig o lywbysgod yn nyfroedd glas dwfn y cefnfor: Daniel Torobekov (Pexels)
Mae tîm o wyddonwyr rhyngwladol wedi olrhain dros 100 o rywogaethau megaffawna morol – gan gynnwys siarcod, morfilod, crwbanod a morloi – gan nodi'r lleoliadau pwysicaf yn ein cefnforoedd byd-eang ar gyfer gwella ymdrechion cadwraeth forol, mewn ymchwil newydd sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe.
Mae'r prosiect ymchwil byd-eang a gymeradwywyd gan y Cenhedloedd Unedig, MegaMove, yn cynnwys bron 400 o wyddonwyr o dros 50 o wledydd. Mae'n dangos lle gellid gosod mesurau diogelwch yn benodol i warchod megaffawna morol.
Grŵp sy'n cynnwys rhai o greaduriaid mwyaf adnabyddus y cefnfor, mae megaffawna morol fel arfer yn ysglyfaethwyr blaenllaw gyda rolau hanfodol mewn gweoedd bwyd morol. Fodd bynnag, maent yn wynebu bygythiadau cynyddol oherwydd effaith amgylcheddol bodau dynol.
Dim ond 8 y cant o gyfanswm cefnforoedd y byd sydd wedi'u cynnwys yn yr ardaloedd morol gwarchodedig presennol. Mae Cytuniad Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig - wedi'i lofnodi gan 115 o wledydd ond heb ei gadarnhau eto - yn ceisio ehangu hyn i 30 y cant.
Canfu'r ymchwil fod targedau'r Cytuniad presennol yn gam i'r cyfeiriad cywir a byddant yn allweddol i gynorthwyo cadwraeth. Fodd bynnag, canfu hefyd nad yw'r targed 30% hyd yn oed yn ddigonol i gwmpasu'r holl ardaloedd critigol a ddefnyddir gan fegaffawna morol sydd dan fygythiad, gan awgrymu bod angen mesurau ychwanegol hefyd.
Arweiniwyd yr ymchwil gan Dr Ana Sequeira o Brifysgol Genedlaethol Awstralia (ANU) ac roedd yn cynnwys Dr Nicole Esteban o'r Labordy Cadwraeth ac Ecoleg Forol yn adran y biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe.
Amlinellodd Dr Nicole Esteban rôl Prifysgol Abertawe yn yr ymchwil:
“Fe wnaethon ni gyfrannu data symudiadau mudo ar gyfer crwbanod môr gwalchbig llawndwf a chrwbanod gwyrdd yn y Caribî a Chefnfor India i ddiffinio cynefinoedd hanfodol a ddefnyddir gan fegaffawna morol, gan gynnwys morfilod, dolffiniaid, siarcod, morgathod, pengwiniaid, eirth gwynion, morloi, morfuchod, adar môr a chrwbanod môr.
Roedd hon yn ymdrech enfawr gan 400 o wyddonwyr a arweiniodd at gasglu mwy na 12,000 o lwybrau gan fwy na 100 o rywogaethau, gan orchuddio dros 70% o wyneb y cefnfor."
Esboniodd pam fod canfyddiadau’r ymchwil mor arwyddocaol a rhai o’r mesurau ychwanegol sydd eu hangen i wella ymdrechion cadwraeth:
“Mae’r ymchwil ddiweddaraf hon yn dangos bod dros 75% o gynefinoedd hollbwysig a ddefnyddir gan fegaffawna morol yn cael eu heffeithio gan weithgareddau dynol, yn enwedig pysgota, llongau, llygredd neu gynhesu.”
Bydd Cytuniad Cefnforoedd diweddar y Cenhedloedd Unedig i amddiffyn 30% o gefnforoedd y byd yn gadael 60% o gynefinoedd hanfodol a ddefnyddir gan fegaffawna morol yn agored i fygythiadau.Mae'r ardaloedd hynny'n hanfodol ar gyfer mudo, bridio, chwilota am fwyd a gorffwys ac mae'n bryd gweithredu i ddatblygu strategaethau lliniaru - fel rheoleiddio pysgota a gwahanu bywyd gwyllt o draffig - i wella amddiffyniad ac atal difodiant a achosir gan ddyn."
Yr Athro Cysylltiol Ana Sequeira o ANU, a arweiniodd yr astudiaeth, yw cyfarwyddwr ymchwil a sylfaenydd MegaMove, prosiect gwyddonol byd-eang a lansiwyd ganddi yn 2020.
Meddai Dr Ana Sequeira:
“Mae MegaMove yn dwyn ynghyd rwydwaith rhyngwladol o ymchwilwyr i ddarparu ymchwil arloesol i hyrwyddo cadwraeth megaffawna morol yn fyd-eang.
“Mae ein hymchwil yn dangos, yn ogystal ag ardaloedd gwarchodedig, y bydd gweithredu strategaethau lliniaru fel newid offer pysgota, defnyddio goleuadau gwahanol mewn rhwydi, a chynlluniau traffig ar gyfer llongau yn allweddol i leddfu’r pwysau dynol presennol ar y rhywogaethau hyn.”
Mae'r ymchwil hefyd yn cysylltu â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, Nod 14 ar ddŵr, ac yn benodol, â Nod A o Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal i atal diflaniad rhywogaethau sydd dan fygythiad a achosir gan ddyn.
Mae'r ymchwil wedi'i chyhoeddi yn Science.