Llun o'r awyr o'r ddau gampws

Mae Prifysgol Abertawe yn y 36ain safle yn y byd am ei chyfraniad at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDG's), yn ôl Tablau Effaith Times Higher Education (THE) ar 18 Mehefin 2025.

Nawr, yn ei seithfed flwyddyn, mae Tablau Effaith THE yn asesu sut mae prifysgolion ar draws y byd yn mynd i'r afael ag 17 Nod Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig - gan fesur perfformiad ar draws pedwar maes allweddol: ymchwil, stiwardiaeth, allgymorth ac addysgu.

Derbyniodd Abertawe sgôr gyffredinol nodedig o 93.8 allan o 100, sy'n golygu ei bod yn gadarn ymysg y 40 uchaf yn y byd allan o 2,318 sefydliad. Yn y DU, mae Abertawe yn y 5ed safle.

Mae'r tablau'n amlygu sut mae prifysgolion yn mynd i'r afael â heriau byd-eang megis cynaliadwyedd amgylcheddol, cynhwysiant cymdeithasol, datblygiad economaidd, a chydweithrediad rhyngwladol.

Cymerodd Abertawe ran mewn 6 o’r 17 Nod Datblygu Cynaliadwy ac enillodd y canlyniadau nodedig canlynol:

Nod Datblygu Cynaliadwy 12: Defnyddio a Chynhyrchu Cyfrifol – 2il (cynnydd o 7 safle)

Nod Datblygu Cynaliadwy 15: Bywyd ar y Tir - yn gydradd 15fed (cynnydd o 4 safle)

Nod Datblygu Cynaliadwy 16: Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf - yn gydradd 22ain (cynnydd o 4 safle)

Nod Datblygu Cynaliadwy 17: Gweithio mewn partneriaetha i gyflawni'r nodau – safle 71 (cynnydd o 101-200)

Nod Datblygu Cynaliadwy 11: Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy - yn gydradd yn safle 51

Nod Datblygu Cynaliadwy 3: Iechyd a Lles Da - yn gydradd yn safle 56

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymchwil ac Arloesi: "Mae'r canlyniadau'n gadarnhad grymus o ymrwymiad diysgog Prifysgol Abertawe at gynaliadwyedd a'n rôl wrth fynd i'r afael â heriau dybryd ein hoes. Mae ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd wedi rhoi fframwaith clir ac uchelgeisiol, sy'n nodi sut rydym yn creu gwybodaeth, yn addysgu arweinwyr y dyfodol ac yn gweithredu fel sefydliad cyfrifol.

"Mae'r gydnabyddiaeth fyd-eang hon yn amlygu cryfder ein hymchwil ryngddisgyblaethol, dyfnder ein partneriaethau a'r uniondeb rydym yn ei ddefnyddio i wreiddio cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar fywyd prifysgol. Hoffwn ddiolch o galon i'r holl gydweithwyr a myfyrwyr am eu harbenigedd, eu hymrwymiad a'u gwaith caled i wneud y cyflawniad hwn yn bosibl. Trwy eu hymdrechion cyfunol rydym yn parhau i wneud gwahaniaeth ystyrlon - yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang."

Rhannu'r stori