
Mae Prifysgol Abertawe ymysg aelodau partner cyntaf rhwydwaith cenedlaethol newydd ar gyfer entrepreneuriaid benywaidd.
Bydd pum prifysgol, a arweinir gan Goleg Imperial Llundain, yn ymuno â rhwydwaith Cenedlaethol WE Innovate a fydd yn cynnal rhaglenni i gefnogi 150 o dimau dan arweiniad menywod bob blwyddyn ar draws y sefydliadau sy'n cymryd rhan.
Bydd y rhwydwaith yn seiliedig ar fformat cystadleuaeth flaenllaw Imperial ar gyfer entrepreneuriaid benywaidd, WE Innovate - rhaglen sy'n cael ei chynnal dros chwe mis ar gyfer 25 o dimau dan arweiniad myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr diweddar ac Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar.
Mae'r rhaglen yn cefnogi sylfaenwyr benywaidd trwy ddosbarthiadau meistr, hyfforddiant busnes, cefnogaeth arbenigol un-i-un, a mentora gan gymheiriaid, gyda'r pum tîm gorau yn cystadlu am gyfle i ennill cyfran o gronfa wobr gwerth £30,000.
Ar wahân i Abertawe, y prifysgolion cyntaf sy'n cydweithio ag Imperial i feithrin rhwydwaith Cenedlaethol WE Innovate yw:
- Prifysgol y Frenhines, Belfast
- Prifysgol Glasgow
- Prifysgol Durham
Meddai Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe, yr Athro Helen Griffiths a'r Dirprwy Is-ganghellor dros Addysg, yr Athro Deborah Youngs: “Mae dod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol WE Innovate yn cyd-fynd â'n Strategaeth Fenter sefydliadol ac mae'n cynnig y cyfle i ni ddatgloi ein doniau drwy gynnig rhaglenni hygyrch i gefnogi ein hentrepreneuriaid benywaidd gorau a mwyaf deallus.
"Drwy gydweithio, rhannu syniadau, profiadau a gwybodaeth mae'n helpu'r cyfranogwyr ond hefyd yn arwain arloesedd a allai fod o fudd i gymdeithas a'r economi yn y dyfodol".
Meddai'r Athro Mary Ryan, Dirprwy-brofost (Ymchwil a Menter) Imperial: “Rydym yn gwybod bod angen gwell mynediad at gyllid a rhwydweithiau cymorth proffesiynol ar fenywod sy’n sefydlu, ac mae llwyddiant ein sylfaenwyr WE Innovate yn dangos y gall y rhaglen hon wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Dyna pam rydyn ni’n gyffrous i gyflwyno WE Innovate yn genedlaethol i sicrhau y gall mwy o fenywod ledled y Deyrnas Unedig gyrraedd eu potensial a throi syniadau gwych yn fusnesau gwych.
“Mae sylfaenwyr benywaidd yn dod â safbwyntiau ac atebion unigryw sy'n hanfodol ar gyfer creu busnesau llwyddiannus, ond maent yn dal i wynebu heriau sylweddol fel entrepreneuriaid. Mae hyn nid yn unig yn annheg, ond hefyd yn rhwystr mawr i dwf economaidd, creu swyddi ac arloesedd.”
Bydd y prifysgolion yn cydweithio i gefnogi datblygiad WE Innovate National ac i addasu'r rhaglen i'r cyd-destunau a'r cymunedau penodol ym mhob rhanbarth.
Ochr yn ochr â rownd derfynol ranbarthol pob prifysgol, bydd rhaglen Genedlaethol WE Innovate hefyd yn cynnal Diwrnod Arddangos cenedlaethol mewn prifysgol wahanol bob blwyddyn. Bydd hyn yn gyfle i'r timau buddugol o bob prifysgol gyflwyno i gynulleidfa o gyfoedion, buddsoddwyr, a chynrychiolwyr diwydiant.
Yn ogystal â rhaglenni rhanbarthol WE Innovate, bydd y prifysgolion sy'n cymryd rhan yn gweithio i ddatblygu Rhwydwaith WE – rhwydwaith cenedlaethol a fydd yn creu mwy o gyfleoedd i sylfaenwyr benywaidd gwrdd â thimau cychwyn busnes eraill, mentoriaid cyfoedion, buddsoddwyr, a chynrychiolwyr diwydiant o bob cwr o'r Deyrnas Unedig.
Sefydlwyd WE Innovate gyntaf yn Imperial yn 2014 i fynd i'r afael â'r heriau y mae busnesau dan arweiniad menywod yn aml yn eu hwynebu yng nghyfnodau cynharaf eu datblygiad, fel mynediad cyfyngedig at gyllid, rhwydweithiau a chymorth busnes.
Rhagor o wybodaeth am gymorth menter yn Abertawe