
Mae llyfr gan arbenigwr o Abertawe mewn cuddwybodaeth a pholisi tramor yr Unol Daleithiau wedi ennill Gwobr Neustadt 2024 am y llyfr gorau ym maes llywodraeth a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau.
Yn ei lyfr, The President’s Kill List: Assassination in US Foreign Policy Since 1945 (Gwasg Prifysgol Caeredin), mae Dr Luca Trenta, sy'n arbenigo mewn Polisi Tramor yr Unol Daleithiau ac yn Athro Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o gysylltiad llywodraeth yr Unol Daleithiau â llofruddiaethau o'r Rhyfel Oer cynnar hyd at heddiw.
Mae'r llyfr yn datgelu'r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddiwyd, o wenwyn a saethwyr cudd i leiddiaid tâl ac actorion lleol. Mae'n archwilio sut y gwnaeth llunwyr polisi benderfynu trefnu llofruddiaethau ac i ba raddau yr oedd gan Arlywyddion reolaeth dros y penderfyniadau hyn.
Drwy olrhain hanes ymagwedd llywodraeth yr Unol Daleithiau at lofruddiaethau, mae Dr Trenta yn dadansoddi datblygiad y polisïau hyn. Am y tro cyntaf, mae'r llyfr yn datgelu sut y mae gweinyddiaethau olynol wedi cyfiawnhau a chyfreithloni llofruddiaethau'n breifat ac yn gyhoeddus, gan sicrhau bod yr arf dadleuol hwn yn parhau i fod yn opsiwn.
Cyhoeddwyd bod llyfr Dr Trenta wedi ennill Gwobr Lyfrau Richard E. Neustadt, a drefnwyd gan Grŵp Gwleidyddiaeth America (APG) o Gymdeithas y Gwyddorau Gwleidyddol.
Yr APG yw'r prif sefydliad proffesiynol ar gyfer ymchwilwyr ac academyddion yn y Deyrnas Unedig y mae eu gwaith yn canolbwyntio ar lywodraeth a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau.
Mae'n dyfarnu'r Wobr i'r llyfr gorau ym maes llywodraeth a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau - gan gynnwys hanes gwleidyddol a pholisi tramor - a gyhoeddir ym mhob blwyddyn galendr.
Mae Dr Trenta yn adnabyddus am ei arbenigedd ym maes polisi tramor yr Unol Daleithiau, yn enwedig ym maes gweithrediadau cudd a llofruddiaethau. Derbyniodd Wobr Ymgysylltiad Seren y Dyfodol yr Academi Brydeinig yn 2017 am ei brosiect ar weithrediadau cudd sydd wedi cynnwys ymgymryd â gwaith allgymorth addysgol a chreu podlediadau cysylltiedig.
Meddai Dr Luca Trenta, Athro Cysylltiol Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe:
'Roedd yn wych cael y newyddion am Wobr Richard Neustadt am fy llyfr The President's Kill List. Mae'r APG a'r gymuned wedi bod yn hanfodol yn fy ngyrfa academaidd ers y papur cyntaf erioed i mi ei gyflwyno fel myfyriwr PhD.
Mae cydweithwyr a ffrindiau yn yr APG wedi bod yn gefnogol iawn o'r llyfr ac mae eu gwaith wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu fy llyfr i. Mae'r cyfle i fod ochr yn ochr â chynifer o ysgolheigion gwych yn rhywbeth rwy'n ei werthfawrogi'n fawr iawn."
Esboniodd Dr Trenta ffocws ei lyfr arobryn:
"Yn ystod y misoedd diwethaf, mae llofruddiaethau a noddwyd gan y wladwriaeth a llofruddiaethau a amheuir, wedi denu cryn sylw yn y newyddion. Mae Canada, India, yr Unol Daleithiau a gwladwriaethau eraill wedi'u tynnu i mewn i gêm llawn cynllwynion a gwrth-gynllwynion, cyhuddiadau a gwadiadau. Mae llawer o sylwebaeth academaidd ac yn y cyfryngau am y datblygiadau hyn yn tueddu i gyfeirio at lofruddiaethau fel rhywbeth mae gwladwriaethau 'afreolus' ac - yn hollbwysig - rhai y tu allan i'r gyfundrefn orllewinol yn ei wneud.
"Nod y llyfr yw unioni'r dadansoddiad hwn yn rannol. Mae llofruddiaethau wedi bod yn rhan amlwg o bolisi tramor yr Unol Daleithiau ers yn gynnar yn y Rhyfel Oer. Fel y mae'r llyfr yn dangos - a hynny'n bennaf drwy ymchwil archifol - mae swyddogion y CIA, arlywyddion a llunwyr polisi allweddol, megis Ymgynghorwyr Diogelwch Cenedlaethol, wedi chwarae ran fawr wrth gynllunio llofruddiaethau ac ymgeisiau i gyflawni llofruddiaethau. Mewn sawl achos, mae'r llyfr yn herio gwadiadau ac enghreifftiau o gamarwain gan y swyddogion hyn â’r nod o ddatgelu camau gweithredu llywodraeth yr Unol Daleithiau yn y maes hynod ddadleuol hwn.
"Mae natur reolaidd a pharhad llofruddiaethau fel un o arferion ym mholisi tramor yr Unol Daleithiau hefyd yn ein helpu i herio'r (hunan) ddelwedd o'r Unol Daleithiau fel arweinydd trefn ryngwladol ryddfrydol sy'n seiliedig ar reolau. Roedd y rheolau hyn yn berthnasol i rai yn unig - os o gwbl. Bu’n rhaid i eraill, megis arweinwyr yn ne'r byd a fu'n darged y cynllwynion hyn, wynebu canlyniadau gweithgareddau cudd llywodraeth y DU."
Mae ‘The President’s Kill List: Assassination in US Foreign Policy Since 1945’, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caeredin, ar gael i'w brynu nawr.