Olufolahan Olumide

Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd doethur mewn peirianneg er anrhydedd i Olufolahan Olumide, i gydnabod ei gyfraniadau eithriadol at beirianneg, pensaernïaeth a mentergarwch byd-eang dros yrfa ryfeddol am 50 mlynedd.

Yn wreiddiol o Lagos, Nigeria, dechreuodd Mr Olumide ei daith academaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn y 1960au ar ôl ennill ysgoloriaeth uchel ei bri gan Shell-BP Nigeria Ltd. Astudiodd beirianneg fecanyddol i ddechrau cyn trosglwyddo i beirianneg sifil, lle cafodd ei fentora gan yr Athro byd-enwog Olek Zienkiewicz - profiad y mae ef wedi'i ddisgrifio fel trawsnewidiol.

Ar ôl graddio ym 1972, dechreuodd Mr Olumide ei yrfa broffesiynol yn adran priffyrdd a phontydd Cyngor Dinas Abertawe. Yn ddiweddarach, dychwelodd i Nigeria i weithio i Shell-BP ac yna dilynodd astudiaethau pellach yng Ngogledd America. Enillodd radd meistr mewn peirianneg adeileddol o Brifysgol Toronto, gan ennill profiad ymarferol gwerthfawr fel intern peiriannydd yng Nghanada. Yna symudodd i California i ennill ail radd meistr mewn pensaernïaeth o Brifysgol Bolytechnig Talaith California, Pomona.

Mae gyrfa Mr Olumide wedi mynd ag ef ar draws y byd, lle mae wedi symud yn ddi-dor rhwng bydoedd peirianneg a phensaernïaeth. Ar ôl dychwelyd i Nigeria, bu’n darlithi mewn peirianneg strwythurol ym Mhrifysgol Ilorin ac ymunodd â Modulor Group Architects, lle daeth yn bensaer cofrestredig ac yn aelod o Sefydliad Penseiri Nigeria.

Ym 1987, sefydlodd Folio Designs and Folio Construction Ltd, cwmni dylunio ac adeiladu a ddarparai wasanaeth cyflawn yn Lagos. Ehangodd ei weledigaeth entrepreneuraidd yn 2004 drwy sefydlu Folio Designs Development & Investment, Inc yn Baltimore, UDA, cwmni a oedd yn canolbwyntio ar adfywio eiddo trefol wedi'u hesgeuluso a’u troi’n gyfleoedd buddsoddi bywiog.

Ar hyn o bryd, mae Mr Olumide yn Brif Swyddog Gweithredol Folio Designs and Folio Construction Ltd yn Lagos, ac ef hefyd yw sylfaenydd Folio Tech Institute, sy'n darparu hyfforddiant ymarferol yn seiliedig ar sgiliau i fyfyrwyr ym meysydd technoleg a dylunio.

Y tu hwnt i'w gyflawniadau proffesiynol, mae Mr Olumide hefyd yn artist dawnus ac yn arweinydd cymunedol gweithgar. Sefydlodd yr Oriel Gelf a Chaffi "Iroko African" yn Baltimore, mae'n un o sylfaenwyr Siambr Fasnach Affrica yn ardal Fetropolitan Baltimore, ac mae'n chwarae rhan weithredol yng nghymuned ei eglwys.

Ac yntau bellach yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe o Nigeria, mae Mr Olumide yn meddu ar gysylltiadau dwfn â'i hen brifysgol o hyd.

Wrth dderbyn yr anrhydedd, meddai Mr Olumide: "Rwyf wrth fy modd ac yn ddiolchgar iawn am y dyfarniad. Mae gweithio a chymryd rhan i ddatblygu Cyn-fyfyrwyr Abertawe yn Nigeria wedi bod yn bleser ac yn fraint. Rwy'n canmol Prifysgol Abertawe am ymrwymo'n ddwfn i gynyddu diddordeb myfyrwyr tramor yn y sefydliad". 

Rhannu'r stori