Keza O'Neill

Mae ‘The Man on the Train’ gan Keza O’Neill wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2025.

Mae'r wobr hon yn cydnabod y straeon byrion gorau, nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi, yn Saesneg ac sydd wedi eu hysgrifennu mewn unrhyw ffurf ac ar unrhyw bwnc, heb fod yn hwy na 5,000 o eiriau. Rhaid bod yr awduron yn 18 oed neu'n hŷn, wedi’u geni yng Nghymru a rhaid eu bod wedi byw yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd, neu’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae ‘The Man on the Train’ yn adrodd hanes dyn heb ei enwi sy'n teithio i Aberystwyth 'cartref' - ar ôl ugain mlynedd. Wrth iddo basio drwy sawl gorsaf ar hyd y ffordd, mae'n ymgodymu â'i brosesau meddwl mewnol sy’n frith o atgofion o'i blentyndod.

A hithau o Aberystwyth yn wreiddiol, dywedodd Keza sy'n 49 oed ac sydd bellach yn byw ym Mryste: "Mae'n fraint cael fy nghydnabod ymhlith rhestr fer o awduron mor ddawnus ochr yn ochr â'r awduron rhagorol sydd wedi ennill y wobr hon o'r blaen. Mae'r eiliad hwn yn teimlo'n swreal ac rydw i'n ddiolchgar iawn am y cyfle i rannu fy stori â darllenwyr.

"Mae fy stori, ‘The Man on the Train’, yn dod o le sy'n agos at fy nghalon. Cafodd ei hysbrydoli gan daith ar y trên rydw i wedi ei dilyn troeon di-rif, wrth i siant gyfarwydd y casglwr tocynnau o enwau lleoedd ennyn teimladau o gyffro, hiraeth neu galon drom ar brydiau. Rydw i bob amser wedi ymddiddori'n fawr yn y syniad o gartref, yr hyn mae'n ei olygu, sut rydym yn ei gario gyda ni, yn estyn amdano neu’n cefnu arno hyd yn oed yn ystod eiliadau o lawenydd neu boen. Mae'r stori'n mynd i’r afael â’r awydd dybryd i fynd adref ar ddiwedd oes, lle mae amser, lle, atgofion a'r presennol oll yn gwrthdaro.

"Mae'r ffaith bod Cynan Jones, awdur straeon sy'n cyfleu’r gwirionedd cignoeth a hardd y tu ôl i’r profiad dynol, yn golygu'r byd imi. Mae llenyddiaeth Cymru yn cynnwys cymysgedd hyfryd o farddoniaeth, dwysedd ac emosiwn, ynghyd â hanes cyfoethog a llu o leisiau bywiog heddiw. Mae’n wir anrhydedd i mi fod hyd yn oed yn rhan fach o'r traddodiad hwnnw."

Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a sefydlwyd ym 1991, wedi cael ei chynnal 12 o weithiau hyd yn hyn. Yn 2021, cafodd y gystadleuaeth ei hail-lansio gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.

Dywedodd Cynan Jones, awdur ffuglen o fri a beirniad gwadd: "Ceir ymdeimlad bod ‘The Man on the Train’ wedi cael ei hysgrifennu ar ymyl greddf, er y gall fod yn hawdd i awdur ei ddarbwyllo ei hun i beidio â dilyn y trywydd hwnnw, yn enwedig os yw'n rhoi cynnig ar rywbeth anghonfensiynol. Gallwch gael eich llethu gan ryw deimlad o amheuaeth, ac wedyn rydych chi'n ceisio dofi’r dewisiadau mwy peryglus rydych chi wedi'u gwneud. Ond os llwyddwch i gael y stori oddi ar eich desg cyn i'r gythraul yn eich pen ddechrau siarad â chi, wedyn bydd yn cyrraedd y darllenydd gyda'r un naws amrwd a beiddgar. Ac mae hynny'n gallu gwneud y stori'n rhywbeth prin. Yn y pen draw, creodd y stori hon argraff fwy dwys ar y cof na'r rhai eraill. A dyna pam gwnaeth hi ennill."

Wedi ennill y wobr, mae Keza yn cael £1,000, a bydd ei stori yn cael ei chynnwys yn Antholeg Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2025, i'w chyhoeddi gan Parthian ym mis Hydref. Bydd straeon gan y cystadleuwyr eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol hefyd yn ymddangos yn yr antholeg.

Bydd yr enillydd, Keza, y beirniad, Cynan Jones, y golygydd, Elaine Canning a Richard Davies o Parthian, a'r cystadleuwyr eraill a gyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2025, yn trafod yr antholeg yn y digwyddiad lansio am ddim yn Waterstones Abertawe nos Lun 20 Hydref am 6pm.

Rhannu'r stori