
Mae prosiect ymchwil newydd yn cael ei amlygu ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd gan mai ei nod yw trawsnewid dealltwriaeth o hunan-niweidio a hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc, yn enwedig rhai sydd mewn cyswllt â gofal cymdeithasol, gan archwilio ffyrdd y byddai’n bosibl cefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed yn well.
Gan ddefnyddio dros ddegawd o brofiad ym maes atal hunanladdiad ac ymchwil hunan-niweidio, bydd Dr Amanda Marchant, Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn dwyn ynghyd data iechyd, gofal cymdeithasol, mewnwelediadau ar-lein a phrofiad bywyd i lunio gwell cymorth a pholisi iechyd meddwl.
Dywedodd: "Rydyn ni wedi gweld datblygiadau mawr o ran deall hunan-niweidio mewn lleoliadau gofal iechyd. Nawr rydyn ni eisiau defnyddio'r un dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth at ofal cymdeithasol, lle mae potensial enfawr i gefnogi rhai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas."
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Dr Marchant gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i arwain yr astudiaeth. Mae’r mentoriaid yr Athro Ann John, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil Hunan-niweidio a’r Athro Jonathan Scourfield, Dirprwy Gyfarwyddwr Partneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) yn ei chefnogi hi. Mae'r ddwy ganolfan hefyd yn cael eu hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae'r ymchwil yn defnyddio data iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg dienw o Fanc Data SAIL (Secure Anonymised Information Linkage), ochr yn ochr â dealltwriaeth o'r ap cymorth cymheiriaid TalkLife, sy'n boblogaidd ymhlith pobl ifanc sy'n ceisio cymorth iechyd meddwl ar-lein.
Bydd y prosiect hefyd yn ehangu Cofrestr Ymchwil SHARE UK, cofrestr o fwy na 2,000 o bobl sydd wedi cydsynio o ran cysylltu â nhw ar gyfer ymchwil hunan-niweidio. Bydd y gofrestr yn cael ei hymestyn i gynnwys pobl ifanc sydd â phrofiad bywyd o ofal cymdeithasol a hunan-niweidio, gan eu galluogi i gyfrannu'n uniongyrchol at hyn ac astudiaethau yn y dyfodol.
"Nid dim ond dadansoddi data ydym ni’n ei wneud, rydyn ni'n gwrando ar bobl ifanc ac maen nhw eisiau cael eu clywed."
Bydd panel ymchwil newydd o bobl ifanc yn chwarae rhan ganolog yn y prosiect, gan helpu i lunio dyluniad yr ymchwil a rhoi dealltwriaeth o'r canfyddiadau.
Er bod yr astudiaeth yn dal yn ei chamau cynnar, mae Dr Marchant yn gobeithio y bydd y canfyddiadau’n arwain at welliannau yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu darparu, yn enwedig trwy ysgolion a gofal cymdeithasol.
Ychwanegodd: "Dim ond y cam cyntaf yw'r gymrodoriaeth hon. Rydyn ni eisiau datblygu sylfaen dystiolaeth a all lywio newid hirdymor i bobl ifanc, p’un a yw hynny mewn ysgolion, gofal cymdeithasol neu fannau digidol."
"Ein nod yn y pen draw yw dylanwadu ar bolisi a gwneud newid sy’n parhau i bobl ifanc agored i niwed yng Nghymru a thu hwnt."
Mae Dr Marchant hefyd yn gyd-ymchwilydd yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil Hunan-niweidio sydd newydd ei sefydlu. Dan arweiniad yr Athro Ann John, cafodd y Ganolfan ei lansio eleni gyda mwy na £2 filiwn o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu gefnogi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru i ymdrin â hunanladdiad a hunan-