Dau ddyn yn sefyll mewn labordy

Mae ymchwilwyr yn Abertawe wedi derbyn grant gwerth £1.2 miliwn i greu prawf gwaed ar gyfer trin cyflyrau fel strôc yn fwy effeithiol.

Nod y prawf yw mesur chwalfa ceuladau gwaed, sy'n ddefnyddiol ar gyfer deall y mecanweithiau sylfaenol yn well a thrwy hynny helpu clinigwyr i ddeall ymhellach sut mae cyffuriau chwalu ceuladau yn gweithio ar geuladau unigol.

Gallai hefyd greu cyfleoedd i weithio gyda chwmnïau fferyllol i ddatblygu meddyginiaethau gwell, gan y gallai'r prawf ragweld yn gywir pa mor dda y gweithiodd eu cyffuriau.

Mae'n gydweithrediad rhyngwladol rhwng Canolfan Ymchwil Meddygaeth Frys Cymru Bae Abertawe (WCEMR) sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Treforys, Prifysgol Abertawe a Sefydliad Technoleg Massachusetts.

Bydd y prosiect tair blynedd yn defnyddio rheoleg, sef astudio llif ac anffurfiad deunyddiau, i olrhain chwalfa ceulad, ar lefel o fewnwelediad sydd y tu hwnt i'r dulliau cyfredol.

Mae'n cael ei ariannu gan Gyngor Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol UKRI, neu EPSRC.

Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Karl Hawkins o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: “Bydd ceulad gwaed yn ffurfio i gyflawni swyddogaeth hemostatig, i atal gwaedu.

“Ac yna, yn y pen draw, bydd y corff yn ei doddi. Gelwir y broses honno’n ffibrinolysis. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes techneg gywir na manwl gywir i fesur y broses hon.

“Dyma lle mae rheoleg yn dod i mewn. Mae'n ein galluogi i nodi'r union foment y mae ceulad yn chwalu trwy nodi pryd y mae'n rhoi'r gorau i gyflawni ei swyddogaeth hemostatig.

“Mae’r dechneg yn arbennig o berthnasol i gleifion strôc. Achosir strôc o ganlyniad i geulad gwaed yn y rhydwelïau sy’n cyflenwi’r ymennydd.

“Mae'r driniaeth yn cynnwys chwalu'r ceuladau hyn trwy roi cyffuriau sy'n chwalu ceuladau a gelwir hyn yn therapi thrombolytig.

“Fodd bynnag, gall thrombolytigau gael sgîl-effeithiau difrifol, fel gwaedu, a all fod yn drychinebus. Ar hyn o bryd, mae canllawiau cyfyngedig ac nid oes biomarcwr i benderfynu ar y math a'r dos priodol o thrombolytig y dylai claf ei dderbyn. Dyna lle mae'r dechneg hon yn dod i mewn.”

Bydd yr Athro Hawkins a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe nawr yn datblygu biomarcwr ar gyfer chwalfa ceuladau.

Ynghyd â biomarcwyr presennol ar gyfer ffurfio ceuladau, gallai'r canlyniad alluogi mesuriad cywir o gylchred oes cyfan y ceulad.

Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar strôc, gan fod y cyfraddau'n parhau'n uchel ac yn bedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru.

Dywedodd Dr Suresh Pillai, Cyfarwyddwr WCEMR ac yn uwch ddarlithydd mewn meddygaeth frys ym Mhrifysgol Abertawe, mai'r canllawiau cenedlaethol oedd rhoi cyffur chwalu ceuladau i gleifion â symptomau strôc o fewn pedair awr a hanner.

“Maen nhw’n ddrud, tua £600 y tro. Ond os yw rhywun yn cael strôc llethol gyda gwendid ar yr ochr lawn, gallwch weld faint o effaith fydd hynny'n ei chael ar y GIG, ar deuluoedd - ond, yn bwysicach fyth, ar ansawdd bywyd y claf.

“Mae’r dos a argymhellir yn cael ei addasu yn ôl pwysau, ond mae pawb yn wahanol. Dydyn ni ddim yn gwybod a ydym ni’n gor-ddosio neu’n tan-ddosio. Nid oes gennym ni fiofarciwr i fesur hynny.

“Felly, os yw’r prawf hwn yn gweithio, byddai’n arloesol. Byddai’n cael effaith enfawr ar sut rydym yn rheoli cleifion.”

Mae cam cyntaf y prosiect yn cynnwys mireinio'r biomarcwr ar gyfer chwalu ceuladau.

Bydd hyn yn tynnu ar arbenigedd Dr Dan Curtis a Dr Francesco Del Giudice o'r Grŵp Ymchwil Hylifau Cymhleth yng Nghampws y Bae Prifysgol Abertawe. Fe'i cynhelir mewn partneriaeth â'r Athro Gareth McKinley o Sefydliad Technoleg Massachusetts.

Dywedodd yr Athro Hawkins: “Yna byddwn yn sefydlu bod y biomarcwyr yn mesur chwalfa ceuladau mewn gwaed arferol drwy ychwanegu cyffuriau sy’n chwalu ceuladau at samplau gwaed a gymerir gan wirfoddolwyr iach.

“Bydd hyn yn cael ei wneud yn y brifysgol. Yna byddwn yn symud i Ysbyty Treforys ar gyfer rhan fwy cyffrous y prosiect, sef mesur y biomarcwyr hyn gan ddefnyddio samplau gwaed gan gleifion strôc sydd wedi cael y therapi’n uniongyrchol.”

Y nod yw datblygu un prawf a all ragweld yn gywir pa mor dda y mae gwahanol gyffuriau'n gweithio. Gallai hyn baratoi'r ffordd i weithio gyda chwmnïau fferyllol i ddatblygu meddyginiaethau gwell.

 

Rhannu'r stori