Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill dyfarniad Cymrodoriaeth Ddoethurol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer ei waith sy’n archwilio diogelwch meddyginiaethau.
Mae Timothy Osborne yn swyddog ymchwil ac yn wyddonydd data yn yr Ysgol Feddygaeth a bydd yn astudio patrymau o ran sut caiff meddyginiaethau eu rhagnodi, gan archwilio pa grwpiau sy'n wynebu'r risg fwyaf o niwed o ganlyniad i feddyginiaethau a nodi'r ffactorau hynny sy'n dylanwadu ar ddiogelwch meddyginiaethau.
Bydd ei ymchwil yn defnyddio data iechyd dienw ar y boblogaeth ledled Cymru, a gedwir ym Manc Data SAIL, ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y canfyddiadau'n helpu i hyrwyddo arferion rhagnodi mwy diogel ac yn cefnogi polisïau i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae gan Timothy radd BSc a gradd MSc mewn mathemateg o Abertawe ac mae'n un o 14 o bobl i gael y dyfarniad personol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Dywedodd: “Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael y gymrodoriaeth ddoethurol hon. Mae'n rhoi'r cyfle i mi ddilyn PhD wrth barhau â'm hymchwil ym maes defnyddio meddyginiaethau'n fwy diogel.
“Bydd y cymorth hwn yn fy ngalluogi i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol a gweithio gyda thîm goruchwylio gwych i ddatblygu fy sgiliau fel ymchwilydd annibynnol, wrth hefyd gydweithio'n agos â chlinigwyr, llunwyr polisi a'r cyhoedd i sicrhau y caiff fy nghanfyddiadau effaith ar y byd go iawn.”
Wrth ganmol yr holl enillwyr personol, dywedodd Pennaeth Rhaglenni Iechyd a Gofal Cymru, Michael Bowdery: “Mae eu cynigion amrywiol a chymhellol yn adlewyrchu cryfder doniau ymchwil ledled Cymru a bydd y dyfarniadau hyn yn cefnogi eu datblygiad parhaus a'u cyfraniad at y meysydd o'u dewis.”
Gweler y rhestr lawn o enillwyr diweddaraf HCRW