Babwn yn cysgu

Llun gan Nick Dale Photography

Mae babŵns trechol yn rheoli'r haid yn ystod y dydd ond gyda'r nos, gallan nhw dalu cost gudd. Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi canfod bod babŵns â statws uwch yn cael llai o gwsg a chwsg mwy ysbeidiol na'r rhai yn yr haid â statws is.

Ar gyfer anifeiliaid sy'n cysgu mewn grwpiau, gall cysgu cymunedol eu hamddiffyn ond - yn debyg i bobl - gall cymdogion agos aflonyddu ar ei gilydd, gan effeithio ar ansawdd a hyd cwsg. Er gwaethaf ei phwysigrwydd, yn anaml y mae'r agwedd gymdeithasol ar gwsg wedi cael ei hastudio ymysg anifeiliaid gwyllt.

Gan ddefnyddio GPS a choleri mesur cyflymder, gwnaeth ymchwilwyr olrhain gweithgarwch yn ystod y dydd a’r nos haid o fabŵns tsiacma yn Ne Affrica, rhywogaeth â strwythur cymdeithasol hierarchaidd cryf.

"Roedden ni'n disgwyl i'r babŵns trechol gysgu'n well yn ystod y nos, efallai am eu bod yn gallu dewis y mannau mwyaf cyfforddus neu gysgodol", meddai Marco Fele, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe a phrif awdur yr astudiaeth. "Ond roedd y gwrthwyneb yn wir yn ôl ein canfyddiadau - roedd babŵns trechol yn cysgu'n llai ac roedd eu cwsg yn fwy ysbeidiol."

Darganfu'r tîm fod gweithgarwch babŵns yn cydweddu â’i gilydd gyda’r nos, a bod unigolion yn gorffwys ac yn deffro ar yr un pryd. Fodd bynnag, mae babŵns â statws uwch wedi’u hamgylchu gan fwy o aelodau'r grŵp ac oherwydd hyn maent yn dylanwadu'n fwy ar ymddygiad ei gilydd gyda'r nos, o'u cymharu ag unigolion â statws is. Felly, mae babŵns trechol yn fwy tebygol o ddeffro ei gilydd.

Yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Current Biology, yw’r un gyntaf i ddarganfod y gall hierarchaethau cymdeithasol effeithio ar gwsg ymysg primatiaid gwyllt. Mae'n awgrymu y gall arweinyddiaeth a dylanwad yn ystod y dydd fod ar draul cwsg gyda'r nos.

"Yn debyg i bobl, mae cwsg yn hanfodol ar gyfer iechyd a gwneud penderfyniadau," meddai'r Athro Andrew King, cyd-awdur yr astudiaeth. "Os yw unigolion trechol yn gorffwys llai gyda'r nos, gallai hyn effeithio ar eu perfformiad a'u lles. Yn yr un modd, mae'n bosib bod babŵns yn gorffwys digon yn gyffredinol, felly byddai'r effeithiau’n isel. Mae angen gwneud rhagor o waith nawr i brofi canlyniadau'r tarfiadau hyn gyda'r nos."

Mae'r canfyddiadau'n amlygu sut mae cysylltiadau cymdeithasol a statws uchel yn dylanwadu ar ymddygiad unigolion a grŵp, hyd yn oed yn ystod cyfnodau gorffwys.  Gwnaed yr wybodaeth newydd hon yn bosib drwy ddatblygiadau mewn technoleg olrhain a dadansoddi data gan agor y drws i ddarganfyddiadau newydd am fywyd cymdeithasol anifeiliaid gwyllt.

Darllenwch yr astudiaeth lawn

Rhannu'r stori