Byddai hyd yn oed meddwl am gerdded ar draws llwyfan i dderbyn gradd wedi teimlo fel breuddwyd amhosibl i Ayla Jones pan oedd hi yn ei harddegau.
Ond nawr ddegawd yn ddiweddarach, mae hi'n falch o fod â gradd BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) ar ôl goresgyn yr anawsterau a fu’n difetha ei bywyd ond a wnaeth hi'n benderfynol o helpu eraill.
Dechreuodd Ayla gael anawsterau gyda'i hiechyd meddwl pan oedd hi’n 12 oed. Gyda diffyg hyder parhaus, roedd newid yn her iddi a daeth hi'n fwyfwy pryderus ac yn isel ei hysbryd cyn cael ei hepisod seicotig cyntaf pan oedd hi'n 15 oed.
“Roeddwn i'n cael paranoia a mania - roeddwn i'n sâl iawn a chafodd effaith wael iawn ar fy addysg. Roedd rhaid i fi gael fy addysgu gartref a gadewais i heb unrhyw fath o gymhwyster,” meddai Ayla sy'n 24 oed ac o Sandfields, Port Talbot.
Yn ei harddegau treuliodd hi flynyddoedd yn ceisio dod o hyd i'r math iawn o feddyginiaeth a thriniaeth a fyddai'n ei galluogi i fyw bywyd boddhaus.
“Roeddwn i'n 18 oed a heb ffrindiau na bywyd cymdeithasol. Roeddwn i'n bodoli yn hytrach na byw. Gwnaeth y cyffuriau fy lleferydd yn aneglur ac roeddwn i'n cysgu yn ystod y dydd. Roeddwn i eisiau cymryd rheolaeth ar fy mywyd, roedd yn rhaid i mi dorri'n rhydd o'r gofid.
“Roeddwn i bob amser wedi eisiau bod yn nyrs ac roedd gweld y diffyg gofal iechyd meddwl mewn ysgolion wedi fy ngwneud i’n benderfynol o ddewis y maes hwn.”
Ond er mwyn gwireddu ei breuddwyd, roedd hi'n gwybod y byddai angen iddi fynd i'r coleg ac ennill cymwysterau mynediad hanfodol.
“Roedd yn rhaid i mi ddysgu sut i weithredu ar fy mhen fy hun, roeddwn i'n 19 oed a doeddwn i byth wedi dal bws ar fy mhen fy hun.”
Gyda help a chymorth ei darlithwyr yng Ngholeg Afan a chariad a chymorth ei theulu, magodd Ayla yr hyder a'r wybodaeth roedd eu hangen arni i fwrw ymlaen â'i huchelgeisiau hi.
Trobwynt mawr oedd cwrdd â'r ymgyrchydd iechyd meddwl Jonny Benjamin, sylfaenydd yr elusen Beyond, mewn cynhadledd. Ar ôl rhannu ei phrofiadau ag ef, gwnaeth e wahodd Ayla i fod yn rhan o fwrdd ieuenctid sy’n helpu i gynghori ar ymgyrchoedd a pholisïau'r dyfodol a hefyd i gyfrannu at The Book of Hope: 101 Voices on Overcoming Adversity. O ganlyniad, cafodd Ayla gyfle i rannu ei stori ochr yn ochr ag enwogion fel Joe Wicks, y Fonesig Kelly Holmes a Zoe Sugg.
“Rhoddodd hyn hwb mawr i'm hyder ac arweiniodd at gyflwyno fy nghais i Abertawe i astudio nyrsio. Pan wnes i gofrestru, esboniais i fy nghyflwr i'r gwasanaeth lles a wnaeth fy rhoi i mewn cysylltiad â'r mentor iechyd meddwl arbenigol Pamela Johnson sydd wedi bod yn wych.
“Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn i gyd hebddi hi, fyddwn i byth wedi gallu ymdopi. Rydw i mor ddiolchgar.”
Dywedodd Pamela: “Mae Ayla wedi gweithio mor galed drwy gydol ei chwrs i reoli ei hiechyd meddwl wrth weithio'n gyson hyd eithaf ei gallu ym mhob agwedd ar y cwrs.
“Mae hi wedi goresgyn sawl her ac wedi cael adborth ardderchog gan ddarparwyr lleoliadau gwaith a chleifion. Mae hi wedi goresgyn ei gofidion a'i phryderon ac wedi ymgymryd â'i hastudiaethau gydag ymroddiad ac ymrwymiad.”
Ar ôl cwblhau lleoliadau gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau, mae Ayla bellach wedi cymhwyso ac mae hi'n gwybod yn bendant beth yr hoffai hi ei wneud.
Dywedodd: “Rwy'n gobeithio codi ymwybyddiaeth a gwneud newidiadau mewn ysgolion i helpu plant a phobl ifanc sy'n dioddef gyda'u hiechyd meddwl mewn modd cefnogol a chynhwysol, a hyn i gyd wrth rannu'r gobaith y gallwn ni gyflawni ein breuddwydion o hyd.”
Dywed fod ei hanes ei hun wedi bod yn allweddol wrth lunio pwy yw hi heddiw - ac wrth wneud hi'n benderfynol o weithio ym maes iechyd meddwl.
Ychwanegodd: “Rwy'n gwybod sut brofiad yw bod yn sâl iawn ac rwy'n gallu rhoi fy hun yn esgidiau rhywun sy'n mynd drwy'r un peth.”
Dysgwch fwy am astudio nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe