O ddathlu hawliau anabledd i rannu profiadau pobl ifanc o gael eu magu mewn cymuned ddur - mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl allweddol yn llwyddiant Gŵyl Bod yn Ddynol unwaith eto.
Bob blwyddyn, mae'r ŵyl yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau am ddim ar draws y DU a thu hwnt. Nod yr holl ddigwyddiadau hyn yw dathlu bywydau pob dydd a helpu pobl i ddeall ei gilydd a'r heriau sydd ynghlwm wrth fyd sy'n newid yn well.
Eleni, thema'r ŵyl oedd Rhwng y Llinellau ac roedd yn cynnwys mwy na 230 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd mewn 39 o drefi a dinasoedd ar draws y DU.
Ffurfiodd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Chaerdydd hwb cydweithredol ar y cyd eleni, gan weithio gyda phartneriaid yn y gymuned a phartneriaid diwylliannol i greu digwyddiadau a phrosiectau a oedd yn archwilio ffiniau, croesfannau a chroestoriadau yn ogystal ag amlygu lleisiau sydd wedi'u hymyleiddio.
Roedd eu digwyddiadau'n cynnwys gweithdy creu cwilt, Stitching Stories of Motherhood, a gynhaliwyd yn Elysium yn Abertawe, gweithdy creadigol a pharti pen-blwydd i ddathlu 30 mlynedd ers pasio'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ac Arddangosfa Steeltown Schoolkids a gafodd ei harddangos am wythnos, mewn partneriaeth â Raspberry Creative ym Mhort Talbot.
Dywedodd un o arweinwyr y digwyddiad hwn: "Cynigodd yr Ŵyl Bod yn Ddynol gyfle arbennig i arddangos sut gall celf a hanes helpu cymunedau lleol i gymryd rheolaeth o'r naratif. Rhoddodd ein Hwb y cyfle i mi ddysgu gwers o'r hanesion llafar rydw i wedi'u recordio ar gyfer fy PhD ynghylch pwysigrwydd prosiectau yn ystod plentyndod er mwyn dylanwadu ar ddyheadau a chyflymu effaith ein prosiect y Cyfrifon Cyflymu Effaith drwy rannu syniadau mwy na 200 o blant lleol gyda rhanddeiliaid allweddol."
Roedd rhaglen Abertawe'n cynnwys digwyddiad Llesiant y Gaeaf yng Nghymru Amlddiwylliannol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dylan Thomas.
Dywedodd yr Athro Yan Wu, y prif drefnydd academaidd, o'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu: "Yn ystod y pandemig, roedd cymunedau Tsieineaidd a chymunedau Asiaidd eraill yn y DU yn cael eu hystyried yn fychod dihangol, gan brofi gwahaniaethu, gelyniaeth a hyd yn oed digwyddiadau casineb. Mewn ymateb i hyn, rydw i wedi bod yn arwain tîm rhyngddisgyblaethol sy'n ymchwilio hiliaeth gwrth-Asiaidd a strategaethau cyfathrebu eiriolaeth.
"Cynigodd Gŵyl Bod yn Ddynol gyfle gwerthfawr i lansio dathliad o ddiwylliant Tsieineaidd ac Asiaidd, gan ganolbwyntio ar ymagwedd gyfannol at les, yn ogystal â'r athroniaethau hynafol sy'n rhoi pwyslais ar yr angen i barchu natur, cyd-fynd â’r tymhorau, a'r angen i faethu'r corff a'r meddwl.
"Roedd yn galonogol gweld cynifer o bobl o gymunedau gwahanol yn dod ynghyd i yfed tê, chwarae'r drwm, mwynhau cerddoriaeth a dawnsio, ac ymarfer Taiji. Yr ysbryd hwn o gyd-ddealltwriaeth, llawenydd a rennir a dathlu ar y cyd yw'r hyn sy'n dod â ni, fel cymuned, ynghyd."
Dywedodd un o'r cyfranogwyr, a ddenwyd gan y gwahanol fathau o gelf a chrefftau: "Mae'n ŵyl amlddiwylliannol. Mae'n bwysig cofleidio pob diwylliant. Mae gan bawb gredoau gwahanol ac arferion gwahanol i'w dilyn. Mae angen i ni gofleidio hynny a derbyn ein bod ni i gyd yn perthyn. Mae'n rhaid i bawb gyd-dynnu â'n gilydd, waeth beth fo'n credoau. Ces i amser gwych. Mae wedi bod yn arbennig."
Beth am fwynhau uchafbwyntiau Gŵyl Bod yn Ddynol 2025
Dysgwch fwy am yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu