Dyfarnodd Cymdeithas Ddaearegol Llundain fedal uchel ei bri i Dr Emma Watts, Ymchwilydd Ôl-ddoethurol mewn Teffrocronoleg yn yr Adran Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, i gydnabod ymchwil ragorol.
Mae gwaith Dr Watts yn canolbwyntio ar ail-greu hanesion ffrwydradau llosgfynyddoedd gan ddefnyddio cyfuniad o ddata maes procsimol a distal, teffrocronoleg, geocemeg a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS). Mae ymchwil Dr Watts yn helpu gwyddonwyr i ddeall gweithgarwch folcanig y gorffennol yn well, gwella gwybodaeth am sut mae systemau folcanig yn esblygu dros amser, a sut mae tectoneg platiau yn dylanwadu ar y prosesau folcanig hyn.
Mae Gwobrau'r Llywydd yn cydnabod geowyddonwyr gyrfa gynnar sy'n dangos addewid eithriadol yr ystyrir bod ganddynt y potensial i ddod yn arweinwyr yn eu maes yn y dyfodol.
Bydd Dr Emma Watts yn cael y wobr mewn seremoni gyflwyno ffurfiol yn Burlington House yn Llundain ar 17 Mehefin 2026 fel rhan o ddathliadau blynyddol Diwrnod Llywydd y Gymdeithas.
Wrth gael y Fedal, meddai Dr Watts: "Mae ennill Gwobr y Llywydd fel fylcanolegwr yn anrhydedd mawr i mi. Mae ein maes yn dibynnu cymaint ar gydweithredu, dyfalbarhad, a diddordeb ar y cyd yn y ffordd y mae llosgfynyddoedd yn cael effaith ar y Ddaear. Drwy gael fy nghydnabod gan Gymdeithas Ddaearegol Llundain, mae fy ngwaith yn cael ei gysylltu â thraddodiad hir o wyddonwyr sydd wedi datblygu ein dealltwriaeth o'r systemau pwerus hyn."
Mae'r wobr hon yn adlewyrchu fy ymdrechion fy hun, a hefyd arweiniad gan fentoriaid, cefnogaeth gan gydweithwyr, a'r gwaith ar y cyd sydd wrth wraidd pob set ddata, ymgyrch maes, a model. Mae'n f’atgoffa pam y dewisais fwlcanoleg yn y lle cyntaf ac mae'n gymhelliant i barhau i gyfrannu at y wyddoniaeth a'r gymuned ag uniondeb, chwilfrydedd a brwdfrydedd."
Sefydlwyd Gwobrau'r Llywydd ym 1980 gan yr Athro Perce Allen ac fe'u dyfernir yn flynyddol yn ôl disgresiwn Llywydd presennol y Gymdeithas Ddaearegol. Mae pob dyfarniad yn werth £250.
Wedi'i sefydlu ym 1807, Cymdeithas Ddaearegol Llundain yw cymdeithas genedlaethol y DU ar gyfer geowyddoniaeth ac mae’n un o'r cymdeithasau daearegol hynaf yn y byd. Mae'n cynrychioli cymuned fyd-eang o fwy na 12,000 o wyddonwyr y Ddaear, gan gynnwys daearegwyr, geoffisegwyr, a geowyddonwyr planedol.
Nod y Gymdeithas yw hyrwyddo a rhannu gwybodaeth am y Ddaear a’r tu hwnt er budd dynoliaeth. Mae'n gwneud hyn drwy gefnogi gwyddonwyr y Ddaear, cynyddu diddordeb yn y byd naturiol, a chysylltu gwyddoniaeth, y proffesiwn a chymdeithas.