Credydd: NSDA.
Mae'r chwiliad ar y gweill am gi ysgol mwyaf ysbrydoledig y DU, wrth i Brifysgol Abertawe a'r Gynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol (yr NSDA) agor enwebiadau ar gyfer Gwobrau Cŵn Ysgol y Flwyddyn y DU 2026.
Gyda thystiolaeth gynyddol y gall cŵn leihau gorbryder, gwella ymddygiad a chefnogi dysgu, mae'r gwobrau'n dathlu'r ffyrdd rhyfeddol y mae cŵn ysgol yn trawsnewid lles, hyder ac ymgysylltiad disgyblion – boed hynny drwy dawelu meddyliau darllenwyr nerfus, cynnig cwmni tawel, neu ddarparu cymorth emosiynol ychwanegol.
Gall ysgolion enwebu eu ci mewn un o bedwar categori:
- Ci Ysgol Gynradd y Flwyddyn
- Ci Ysgol Uwchradd y Flwyddyn
- Ci Ysgol Arbennig y Flwyddyn
- Ci Cymuned Addysgol y Flwyddyn (ar gyfer cŵn sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol ehangach)
Mae'r gwobrau'n cydnabod cŵn eithriadol a hefyd yr ysgolion sy'n eu hintegreiddio mewn modd cyfrifol i addysg bob dydd. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau fydd 27 Mawrth 2026.
Caiff y gwobrau eu cynnal gan yr NSDA a Phrifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol Cynghori ar Les Cŵn (APDAWG) a'u cefnogi gan y Pet Education Partnership. Y llynedd, bu cynrychiolaeth gref o Gymru: tri chi o Gymru'n cyrraedd y rownd derfynol.
Bydd enillwyr eleni yn cael tlws a phecyn gwobr i'r ci a fydd yn cynnwys danteithion a phecyn hyfforddi pwrpasol, yn ystod derbyniad arbennig ym Mhalas San Steffan ar 13 Mai. Cynhelir dathliad ar-lein i'r holl gystadleuwyr ym mis Mehefin.
Meddai'r Athro Helen Lewis, Cadeirydd yr NSDA: "Nod y gwobrau hyn yw rhoi sylw i'r ffyrdd arloesol a chyfrifol y mae ysgolion yn integreiddio cŵn i'w hamgylcheddau dysgu i wella deilliannau dysgu. Maen nhw hefyd yn cydnabod yr ysgolion hynny sy'n gweithio i sicrhau bod gweithgareddau eu ci ysgol yn cael eu rheoli'n ddiogel ac yn foesegol, gyda lles myfyrwyr a'r ci mewn golwg."
Meddai Dr Marc Abraham OBE, milfeddyg sy'n ymgyrchu, gwneuthurwr ffilmiau ac ysgrifenyddiaeth y Grŵp Hollbleidiol: "Mae mwy a mwy o ysgolion yn darganfod y manteision y gall ci ysgol eu cynnig – o wella lles disgyblion a meithrin datblygiad cymdeithasol ac emosiynol, i atgyfnerthu perthnasoedd rhwng pobl ac anifeiliaid."
Mae panel beirniaid 2026 yn cynnwys arbenigwyr o fyd teledu, addysg a'r byd cŵn, gan gynnwys darllenydd newyddion ITV Lucrezia Millarini a'i chi Milo; Hannah Molloy, arbenigwr mewn ymddygiad cŵn sy’n wyneb cyfarwydd o'r teledu; Irene Campbell AS, Cadeirydd y Grŵp Hollbleidiol; ynghyd â Dr Marc Abraham OBE ac aelodau o'r Gynghrair Genedlaethol Cŵn Ysgol.
Enwebwch y ci sy'n arwr yn eich ysgol chi.
Dysgwch fwy am Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.