Dyn a dynes yn gwisgo cotiau gwyn yn sefyll o flaen offer labordy

Yr Athro Jeff Davies gyda'r myfyriwr PhD Jessica Stoneman yn y labordai. (Llun: BRACE Dementia Research)

Dyfarnwyd £102,949 i ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe gan yr elusen BRACE Dementia Research, i ymchwilio i rôl hormon stumog mewn triniaeth newydd bosibl ar gyfer dementia.

Mae'r cyllid wedi'i ddyfarnu i'r Athro Jeff Davies a bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi myfyriwr PhD a fydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Athro Davies i gynnal ymchwil labordy i ghrelin, hormon stumog sy'n fwyaf adnabyddus am reoleiddio archwaeth. Mae'r hormon hefyd yn chwarae rôl yn system imiwnedd yr ymennydd. Bydd y tîm yn mynd ar drywydd manteision cadarnhaol ghrelin yn y gobaith o ddatblygu triniaeth ar gyfer dementia.

Mae ghrelin yn bodoli ar ddwy ffurf; mae un yn cael effeithiau cadarnhaol ar yr ymennydd a'r llall yn negyddol. Mae'r gyntaf, a elwir yn ghrelin asyleiddiedig, yn amddiffynnol ac yn annog celloedd newydd yn yr ymennydd ac yn lleihau llid. Mae'r ail, ghrelin nad yw'n asyleiddiedig, yn gweithio yn erbyn y manteision hyn. Mae'n blocio effeithiau cadarnhaol ghrelin asyleiddiedig ac mae wedi cael ei ganfod i amharu ar weithrediad y cof - symptom allweddol yng nghlefyd Alzheimer.

Yn hanfodol, mae lefelau uwch o ghrelin nad yw'n asyleiddiedig wedi'u canfod mewn pobl â dementia clefyd Parkinson, sy'n awgrymu y gallai hyn chwarae rhan uniongyrchol mewn dirywiad gwybyddol ac mewn dementia.

Gan adeiladu ar ganfyddiadau o brosiect peilot blaenorol a ariennir gan BRACE, bydd yr ymchwilwyr yn ymchwilio i ffyrdd o gynyddu'r 'ghrelin da' drwy lwybr cyffuriau wedi'i dargedu.

Bydd yr Athro Davies a'i fyfyriwr PhD, Jessica Stoneman, yn defnyddio celloedd imiwnedd a roddwyd gan bobl sydd â gwahanol fathau o ddementia, fel Dementia gyda Chyrff Lewy, Alzheimer a Parkinson gyda dementia.

Byddant yn astudio'r celloedd imiwnedd i weld sut mae pob math o ghrelin yn effeithio ar iechyd yr ymennydd cyn profi moleciwl tebyg i gyffuriau y mae'r tîm eisoes wedi'i ddatblygu.

Mae'r 'cyffur' yn annog priodweddau ghrelin asyleiddiedig sy'n amddiffyn yr ymennydd ac os canfyddir canlyniadau cadarnhaol yn y celloedd imiwnedd â dementia, y gobaith yw y gallai'r dull hwn greu llwybr triniaeth newydd i leihau llid yr ymennydd a thrin dementia.

Meddai'r Athro Jeff Davies, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "Mae ychydig iawn o driniaethau ar gyfer dementia oherwydd nad ydym yn deall y cyflwr yn llawn. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn cynnig cyfle i'r tîm adeiladu ar yr ymchwil rydyn ni wedi'i chynnal o'r blaen i hormonau perfedd ac ymchwilio ymhellach i sut maen nhw'n rhyngweithio â chelloedd imiwnedd ac yn effeithio ar iechyd yr ymennydd.

"Rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn ein helpu i fynd â ni gam yn nes at gyflawni cyffuriau a thriniaethau newydd i bobl sy'n byw gyda dementia."

Meddai Liberty Harrisson, Prif Swyddog Gweithredol dros dro BRACE Dementia Research: "Gallai dull arloesol yr Athro Jeff Davies arwain at ffordd newydd o fynd i'r afael â dementia. Er bod cynnydd yn y frwydr yn erbyn dementia, gorau po gyntaf y daw triniaethau mwy ystyrlon. Diolch i'n cefnogwyr am wneud yr ymchwil hon yn bosibl."

 

Rhannu'r stori