Parc Chwaraeon Bae Abertawe

Parc Chwaraeon Bae Abertawe

Yn dilyn proses gaffael gynhwysfawr, mae Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe wedi ymrwymo i gytundeb ar y cyd â Freedom Leisure i weithredu'r cyfleusterau chwaraeon a hamdden ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe (SBSP).

Mae'r bartneriaeth yn un o elfennau allweddol model gweithredu hirdymor newydd ar gyfer Parc Chwaraeon Bae Abertawe a ddatblygwyd er mwyn cyfoethogi profiad y cwsmeriaid, gwella perfformiad a chreu sylfaen ar gyfer buddsoddi yn y cyfleusterau a'u datblygu yn y dyfodol, gan gynnal statws Parc Chwaraeon Bae Abertawe fel hyb rhanbarthol ar gyfer chwaraeon perfformiad, myfyrwyr a chymunedol.

SBSP Ltd fydd yn goruchwylio'r cytundeb, sef cwmni cyd-fenter nid-er-elw, y mae'r Cyngor a'r Brifysgol yn berchen arno'n llawn, a sefydlwyd i arwain datblygiad strategol y safle yn y dyfodol. Mae’n adeiladu ar gyfnod 25 mlynedd llwyddiannus o gyd-weithio ers sefydlu Pwll Cenedlaethol Cymru.

O 1 Awst 2026, bydd Freedom Leisure yn gweithredu cyfleusterau ledled Parc Chwaraeon Bae Abertawe, gan gynnwys canolfan chwaraeon a chaeau Prifysgol Abertawe, Pwll Cenedlaethol Cymru, y Ganolfan Athletau a Hoci a meysydd chwarae Brenin Siôr V ar Ffordd Ashleigh, yn ogystal â chyfleusterau hamdden y Brifysgol ar Gampws y Bae.

Freedom Leisure yw un o ymddiriedolaethau elusennol, hamdden a diwylliannol nid-er-elw mwyaf blaenllaw’r DU, gan weithredu mwy na 130 o leoliadau hamdden, diwylliannol ac adloniant ledled y DU. Er bod Freedom Leisure eisoes yn gweithredu nifer o gyfleusterau ledled Abertawe, mewn partneriaeth â'r Cyngor,  bydd hwn yn gontract annibynnol a bydd Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn parhau i weithredu fel safle ar wahân sy'n cefnogi chwaraeon cymunedol, perfformiad a myfyrwyr.

Mae'r bartneriaeth newydd yn cefnogi uchelgeisiau rhanbarthol ehangach, gan gynnwys datblygu'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd (NISH), yn y parc chwaraeon, a fydd yn dod â phartneriaid o feysydd chwaraeon, iechyd, ymchwil a diwydiant ynghyd i ysgogi arloesi, gwella lles a chefnogi twf economaidd;  gan gryfhau ymhellach rôl y safle fel canolfan rhagoriaeth.

Mae gwaith bellach ar y gweill i sicrhau trosglwyddiad llyfn i'r gweithredwr newydd a chaiff diweddariadau rheolaidd i gwsmeriaid eu rhannu drwy wefan Parc Chwaraeon Bae Abertawe, y cyfryngau cymdeithasol a sianeli cwsmeriaid eraill.

Dywedodd Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe:

"Mae'r bartneriaeth hon yn gam cadarnhaol ymlaen ar gyfer Parc Chwaraeon Bae Abertawe ac yn adlewyrchu ein huchelgais ar y cyd â Chyngor Abertawe i sicrhau ei ddyfodol hirdymor.

"Drwy weithio gyda Freedom Leisure, rydym yn gwella'r profiad i gwsmeriaid, wrth greu sylfaen gref ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, gan gynnwys cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd.

"Edrychwn ymlaen at barhau ein partneriaeth â'r Cyngor i ddatblygu cyfleusterau hygyrch o safon uchel i'n myfyrwyr a'r gymuned ehangach.”

Dywedodd Martin Nicholls, Prif Weithredwr Cyngor Abertawe:

"Gyda Freedom Leisure wrth y llyw fel gweithredwr Parc Chwaraeon Bae Abertawe, byddwn yn gweithio gyda nhw, partneriaid a'r rhai hynny sy'n defnyddio'r parc ar drefniadau cynaliadwy newydd er budd cymunedau, myfyrwyr y Brifysgol a'r ddinas gyfan.

"Bydd y model gweithredu unigol hwn ar gyfer y cyfleusterau'n ein helpu i wella'r safle a'i weithredu'n effeithlon. 

"Mae Abertawe'n ddinas chwaraeon ac rydym am sicrhau y bydd cyfleusterau cymunedol yn parhau i fod ar gael i bawb, ac y cânt eu cynnal i'r safonau uchaf posib.”

Wrth sôn am gaffael y contract, dywedodd Ivan Horsfall Turner, Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure:

"Rydym yn falch ein bod ni wedi cael ein dewis i fod yn weithredwr newydd Parc Chwaraeon Bae Abertawe ac o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe ar y fenter hon. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi cyfleuster newydd sy'n chwarae rôl hynod bwysig o ran lles y gymuned, bywyd myfyrwyr a chwaraeon perfformiad.

Rydym wedi bod yn gweithredu canolfannau hamdden yn llwyddiannus ledled Abertawe am y saith mlynedd diwethaf ac o ganlyniad mae gennym ddealltwriaeth gref eisoes o'r gymuned leol a'i hanghenion, a fydd yn cynnig buddion amlwg i'r bartneriaeth hon o'r diwrnod cyntaf.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid i ddatblygu'r safle ymhellach, gwella profiad y cwsmeriaid a chyfrannu at y weledigaeth hirdymor ar gyfer chwaraeon, iechyd ac arloesedd yn y rhanbarth."

E-bostiwch Barc Chwaraeon Bae Abertawe yn: enquiries.sbsp@abertawe.ac.uk

Ewch i'r wefan: https://www.swanseabaysportspark.wales

Rhannu'r stori