Mae'r gwasgiad cynyddol rhwng bywyd gwyllt a seilwaith dynol yn golygu bod llai o le ar gyfer natur.
Llun: Dr Richard Unsworth
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu graddfa syfrdanol o ddirywio hanesyddol yn aberoedd ac ar arfordiroedd Cymru, gan herio cadwraethwyr modern i ailfeddwl am sut maent yn adfer amgylcheddau morol y genedl.
Mae'r ymchwil, dan arweiniad Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe, yn defnyddio ecoleg hanesyddol i fapio tair canrif o addasiadau diriaethol. Dengys y canfyddiadau fod 79 y cant o aberoedd Cymru (33 o'r 42 a astudiwyd) wedi bod yn safleoedd gwaith peirianneg sylweddol, gan gynnwys adfer tir, dargyfeirio sianeli ac adeiladu argloddiau enfawr.
Mae'r astudiaeth newydd gael ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Natural Resources Forum a dyma ei chanfyddiadau allweddol:
- Addasiadau helaeth - mae mwy nag 13,493 o hectarau o gynefinoedd morol a morydol wedi cael eu colli o ganlyniad uniongyrchol i addasiadau diriaethol;
- Cynnydd ar garlam yn y 19eg ganrif - gwnaed y rhan fwyaf o'r addasiadau mawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef anterth y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru;
- Proses systematig o ddileu ardaloedd anferth o gynefinoedd rhynglanwol cynhyrchiol;
- Cynefinoedd sy'n diflannu - byddai'r effeithiau cynharaf a mwyaf difrifol wedi cael eu gweld mewn cynefinoedd hanfodol, megis morfeydd heli, dolydd morwellt a gwelyau wystrys;
- Daearyddiaeth sy'n cael ei difetha - cafodd rhai morydau eu difetha yn gyfan gwbl a chafodd cyn ynysoedd, megis Ynys y Bari, eu cysylltu'n barhaol â'r tir mawr drwy ddatblygu porthladdoedd; a
- Gwaethygodd problemau o ganlyniad i or-ecsbloetio i raddau anferth riffiau wystrys a llygredd metel parhaus o fwyngloddio.
Yn ôl yr astudiaeth, cafwyd llawer o'r difrod hwn cyn i gofnodi ecolegol modern ddechrau, felly mae ymdrechion cadwraethol heddiw yn aml yn ceisio cadw ecosystemau sydd eisoes wedi dirywio’n ddifrifol.
Dywed yr adroddiad fod Cymru'n wynebu etifeddiaeth o ddirywio ac ychydig iawn o waelodlinau 'effaith isel', os oes rhai o gwbl, sydd ar ôl. Yn hytrach na morwedd wydn, mae'r hyn sy'n weddill yn gynfas ecolegol gwag.
Bellach, yn hytrach na cheisio dychwelyd i gyflwr dilychwyn amhosib, mae'r ymchwilwyr yn dadlau dros fframwaith adfer Un Iechyd. Mae'r ymagwedd hon yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Gwella bioamrywiaeth - symud y tu hwnt i ddiogelu'r sefyllfa bresennol i fynd ati'n rhagweithiol i ail-greu cynefinoedd a gollwyd;
- Gwydnwch ecosystemau - adfer gweithrediadau sy'n cefnogi bioamrywiaeth, atafaelu carbon, arafu tonnau a hidlo dŵr; a
- Lles dynol - cysylltu iechyd amgylcheddau morol ag iechyd economaidd-gymdeithasol a chorfforol cymunedau arfordirol.
Meddai'r prif awdur, Dr Unsworth: "Drwy gydnabod gwir raddfa newid hanesyddol, gallwn symud y tu hwnt i syniadau o gadwraeth nad ydyn nhw’n addas heddiw.
"Dylen ni ddefnyddio'r ecosystemau dirywiedig hyn fel sylfaeni adfer ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau bod twf glas yn cyd-fynd â chanlyniadau cymdeithasol, ecolegol ac iechyd."
Mae'r astudiaeth yn gydweithrediad rhwng ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, Project Seagrass ac ymgynghorydd ecolegol lleol. Bu'r tîm ymchwil yn dadansoddi cofnodion archifol, mapiau degwm a naratifau hanesyddol i greu darlun o addasiadau ar hyd arfordir Cymru.