Mae Dr Joe Whittaker sy'n Uwch-ddarlithydd Seiberfygythiadau ym Mhrifysgol Abertawe, yn rhan o brosiect ymchwil rhyngwladol newydd a ariennir gan Horizon Ewrop a fydd yn archwilio sut mae iaith casineb gudd yn lledaenu drwy'r cyfryngau cymdeithasol a thechnolegau AI, yn ogystal â datblygu offer a strategaethau arloesol i'w hatal.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd PROCLAIM (sy'n sefyll am y canlynol - Polareiddio, Radicaleiddio ac Eithafiaeth Ar-lein: Canfod Iaith Casineb Gudd mewn Technolegau Deallusrwydd Artiffisial Uwch a'r Cyfryngau Cymdeithasol) yn dod â deg sefydliad ymchwil a chymdeithas sifil Ewropeaidd ynghyd. Gyda'i gilydd, byddant yn datblygu offer canfod newydd wedi'u pweru gan AI, strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i atal iaith casineb rhag darbwyllo a dylanwadu ar bobl, a rhaglenni addysgol a fydd yn cyrraedd miloedd o bobl ifanc, gan helpu i sicrhau y bydd llai o fannau ar gael i iaith casineb guddio ynddynt.
Mae ffurf gynyddol o iaith casineb yn cuddio y tu ôl i iaith, eironi neu fynegiannau ag ystyr cudd sydd i bob golwg yn ymddangos yn niwtral. Yn wahanol i ffurfiau mwy amlwg o iaith casineb, mae'n gallu bod yn llawer mwy anodd ei chanfod a'i rheoleiddio, sydd felly’n golygu ei bod yn parhau i gyfrannu o hyd at bolareiddio, radicaleiddio ac erydiad democratiaeth. Mae datblygiadau cyflym mewn deallusrwydd artiffisial a modelau iaith mawr wedi cyflymu ymhellach ledaeniad a natur soffistigedig y cynnwys niweidiol hwn ar-lein.
Bydd PROCLAIM yn datblygu fframwaith damcaniaethol sylfaenol ar gyfer deall iaith casineb, sy'n gallu canfod ffurfiau amlieithog ac amlfodd ohoni ar draws platfformau ar-lein a systemau AI. Bydd y prosiect hefyd yn archwilio'r mesurau diogelwch sydd ar waith ar gyfer Modelau Iaith Mawr ac yn cyfrannu at fframweithiau polisi Ewropeaidd y dyfodol ar lywodraethu AI, atebolrwydd platfformau a democratiaeth ddigidol.
Ochr yn ochr â'i waith technolegol a pholisi, mae PROCLAIM yn rhoi pwyslais cryf ar ymgysylltu â'r cyhoedd a mesurau atal. Drwy ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a rhaglenni addysgol, nod y fenter yw atgyfnerthu gwydnwch yn erbyn manipiwleiddio a negeseua eithafol ar-lein, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.
Dywedodd Dr Whittaker: “Mae'n bleser mawr gennyf fod yn rhan o brosiect PROCLAIM. Mae eithafwyr yn defnyddio mesurau soffistigedig - gan gynnwys addasu eu hiaith - i sicrhau y caiff eu negeseuon eu lledaenu'n eang iawn yn y cyfryngau cymdeithasol. Bydd Prifysgol Abertawe'n gyfrifol am lunio a gwerthuso negeseuon ‘inociwleiddio’ i herio iaith casineb, â'r nod o geisio helpu cynulleidfaoedd i nodi iaith eithafol o'r fath a'i gwrthod. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu pobl ifanc i ddefnyddio mannau ar-lein mewn modd mwy diogel.”