Cyfranogwyr yn cymryd rhan yn nigwyddiad Flip the Streets ym mharc sglefrfyrddio'r Mwmbwls.
Bellach mae parc sglefrfyrddio'r Mwmbwls yn helpu i hyrwyddo cynhwysiant a pherthyn ar ôl cael adnewyddiad lliwgar dan ysbrydoliaeth y gymuned.
Defnyddiodd defnyddwyr y parc, eu ffrindiau a'u teuluoedd, a hyd yn oed y PCSO lleol eu sgiliau artistig i greu geiriau a murluniau lliwgar, llachar a chadarnhaol ar gyfer ein prosiect diweddaraf gan Flip the Streets, y fenter gymunedol a sefydlwyd gan yr Athro Lella Nouri ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Flip the Streets yn gweithio gyda phobl ifanc a'r gymuned ehangach i greu gwaith celf a ddyluniwyd ar y cyd sy'n cynrychioli eu credoau a'u gwerthoedd yn y gofodau ffisegol y maen nhw'n eu defnyddio. Mae'n cefnogi grwpiau i sefyll allan yn erbyn pob math o gasineb ar ein strydoedd.Mae'r prosiectau blaenorol wedi cynnwys murluniau deniadol i ddisodli graffiti a fandaliaeth casineb.
Ar gyfer y prosiect yn y Mwmbwls, trefnodd yr Athro Nouri a'i thîm ddau weithdy a roddodd gyfle i ddefnyddwyr greu syniadau am sut i gynrychioli'r parc sglefrfyrddio ar ffurf celf. Gofynnwyd iddynt beth oedd yn ei olygu iddynt i fod yn rhan o'r gymuned sglefrfyrddio yn y Mwmbwls, beth oedd yn arbennig am berthyn iddi a sut gallent gynrychioli perthyn a chynhwysiant drwy gyfrwng celf.
Yna, cafodd eu hawgrymiadau eu troi'n ddau furlun gan Fresh Creative CIC - un a oedd yn cynnwys llong danfor i adlewyrchu llawer o syniadau ar thema'r môr, a'r llall yn cynnwys tun chwistrellu’r Mwmbwls a gafodd ei awgrymu gan un o'r defnyddwyr. Cafodd sgwter a sglefrfwrdd eu cynnwys i gynrychioli'r ystod o ddefnyddwyr y mae'r parc sglefrfyrddio'n eu denu.
Roedd pawb a gymerodd ran yn y gweithdai, ynghyd â'r staff a'r gwirfoddolwyr o Gyngor Cymunedol y Mwmbwls, wedi cymryd rhan mewn diwrnod murlun arbennig lle daeth y gelf yn fyw. Roedd tua 40 o gyfranogwyr wedi cyfrannu at y murluniau gorffenedig.
Meddai'r Athro Nouri, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Roedd hyn yn enghraifft wych o nod Flip the Streets - dod â phobl ynghyd i ddathlu'r lleoedd sy'n bwysig iddynt a rhoi llais gweladwy i bobl ifanc a chymunedau lleol wrth ddylanwadu ar y lleoedd hyn.
"Roedd yr egni ar y diwrnod yn wych, yr egni ar y murlun yn arbennig, gyda'r sglefrwyr, y teuluoedd, y gwirfoddolwyr a'r PCSO yn cyfrannu at rywbeth cadarnhaol, lliwgar, parhaol. Mae'r murluniau hyn yn adlewyrchu creadigrwydd, balchder ac ymdeimlad o berthyn sydd eisoes yn bodoli yng nghymuned y parc sglefrfyrddio, ac rydym yn gobeithio y bydd y lle yn teimlo hyd yn oed yn fwy croesawgar i bawb sy'n ei ddefnyddio."
Lansiodd Flip the Streets yn 2023, a gafodd ei ariannu ar y dechrau gan Race Council Cymru a bellach gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe. Ers hynny mae wedi helpu i drawsnewid ardaloedd yng Nghlais, Gorseinon, Trefansel a chanol y ddinas.