Mae Prifysgol Abertawe a thîm BIOVIT yn troi gwastraff yn lles drwy arloesedd Fitamin C naturiol. Cydnabyddiaeth: Aleksandar Malivuk | Shutterstock.
Mae Prifysgol Abertawe'n ffurfio partneriaeth â busnes newydd o'r enw BIOVIT o Ddinbych-y-pysgod i archwilio a all gwastraff prosesu bwyd gael ei droi'n ffynhonnell newydd o Fitamin C naturiol - gan gynnig dewis amgen cynaliadwy i gynhwysion synthetig a ddefnyddir yn aml mewn atchwanegiadau a bwydydd cyfnerthedig.
Fel rhan o brosiect a ariennir gan Innovate UK, mae'r tîm yn archwilio ffurfiau amrywiol o wastraff amaethyddol a gwastraff prosesu bwyd er mwyn asesu'r posibilrwydd o adfer fitaminau a mwynau. Dangosodd ymchwil gychwynnol BIOVIT fod hyd at 60% o'r fitaminau a'r mwynau a geir yn neunydd ffrwythau a llysiau'n cael eu colli wrth iddynt gael eu prosesu, gan greu cyfle gwerthfawr ar gyfer adfer maetholion.
Mae ymchwilwyr o BioHYB Cynhyrchion Naturiol Prifysgol Abertawe | Canolfan Cyflymu'r Economi Werdd yn arwain y datblygiad gwyddonol a'r gwaith echdynnu mewn cydweithrediad â BIOVIT.
Mae'r prosiect yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch sero net, effeithlonrwydd adnoddau ac arloesedd yr economi gylchol, gan gyfrannu at ddiogelwch bwyd a diogelwch maethol gwell. Os bydd y prosiect yn llwyddiannus, bydd yn arddangos sut gall gwastraff prosesu bwyd gael ei droi'n gynhwysion maethol o ansawdd uchel, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer cynhyrchu cylchol yng Nghymru.
Mae'r cydweithrediad yn dilyn llwyddiant diweddar BIOVIT yng Ngwobrau Gweithgynhyrchu Cynhwysion IFE 2026 lle gwnaeth ei gysyniad Fitamin C cylchol ennill y wobr Galluogi Technolegau ar gyfer Cynhwysion a gwobr gyffredinol Arloesedd y Flwyddyn.
Dywedodd Dr Farooq Shah, Cyfarwyddwr y BioHYB Cynhyrchion Naturiol | Canolfan Cyflymu'r Economi Werdd ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym yn cymryd rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn wastraff yn draddodiadol, ac yn archwilio a all ddod yn rhan o'r ateb i rai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu systemau bwyd modern. Drwy gysylltu uchelgais masnachol BIOVIT ag arbenigedd Prifysgol Abertawe ym maes cynhyrchion naturiol, peirianneg prosesu cemegol, cemeg werdd a biotechnoleg, gallwn ni helpu i droi gwastraff prosesu bwyd yn gynhwysion o ansawdd uchel gyda chymwysiadau yn y byd go iawn. Mae'n enghraifft gref o sut mae cydweithrediad rhwng prifysgolion a busnesau bach a chanolig yn gallu cefnogi gweithgynhyrchu cylchol, cryfhau cadwyni cyflenwi rhanbarthol a helpu i roi Cymru ar flaen y gad o ran yr economi werdd."
Dywedodd Ky Wright, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol BIOVIT: "Rydym yn awyddus i wella iechyd pobl a'r blaned drwy fitaminau a mwynau naturiol. Mae'r rhan fwyaf o atchwanegiadau a bwydydd cyfnerthedig yn dal i ddibynnu ar fitaminau artiffisial, sydd yn aml yn cael eu cynhyrchu drwy brosesau synthetig. Rydym yn credu bod ffordd well. Mae gweithio gyda Phrifysgol Abertawe yn sicrhau bod gennym fynediad at yr arbenigedd ymchwil sydd ei angen i ddatblygu Fitamin C naturiol o wastraff prosesu bwyd. Os bydd y prosiect yn llwyddiannus, gall ein helpu i greu dosbarth newydd o gynhwysion cylchol label glân ar gyfer brandiau bwyd, diodydd ac atchwanegiadau."
Dywedodd Chedly Tizaoui, Athro mewn Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe: "Yr hyn sy'n gwneud y prosiect hwn yn benodol yn gymhellol yw'r cyfuniad o her wyddonol a pherthnasedd masnachol. Mae'n ein galluogi ni i fynd i'r afael â phroblem yn y byd go iawn wedi'i gwreiddio mewn llifoedd gwastraff lleol, gan roi egwyddorion peirianneg gemegol uwch ac ymagweddau echdynnu gwyrdd ar waith er mwyn adfer microfaethynnau gwerthfawr o weddillion prosesu bwyd. Ein nod yw sefydlu llwybr cadarn y gellir ei ehangu ar gyfer Fitamin C sy'n cefnogi cynhyrchiant cylchol ac arloesedd bwyd ehangach."
Darllenwch ragor am yr Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg.