- Rhif y Swydd
- SU01440
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 12 Maw 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 30 Maw 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Jonathan Thomas Jonathan.W.Thomas@swansea.ac.uk
- Alyson Bray A.Bray@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd barhaol, amser llawn yw hon.
Mae'r Ysgol am benodi Darlithydd brwdfrydig a llawn ysgogiad i ymuno â'r tîm Nyrsio Cymunedol ac Ardal. Prif ffocws y rôl hon yw cefnogi cyflwyno a datblygiad parhaus rhaglen Nyrsio Ardal y Cymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ).
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at addysgu ar draws modiwlau nyrsio cymunedol a gyflwynir mewn partneriaeth â'r rhaglen Nyrsio mewn Iechyd Cyhoeddus Arbenigol, gan gefnogi dysgu a rennir a chydweithio rhyngbroffesiynol. Yn ogystal, bydd y rôl yn cynnwys cyfrannu at addysgu a chefnogi myfyrwyr ar draws yr Adran Nyrsio mewn ystod o fodiwlau israddedig, ôl-raddedig a datblygiad proffesiynol parhaus.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at addysgu o safon, asesu, datblygu'r cwricwlwm a goruchwylio myfyrwyr. Mae'r rôl yn galw am gredadwyedd clinigol cryf mewn ymarfer nyrsio ardal a'r gallu i gefnogi nyrsys cofrestredig i ymgymryd â rolau arbenigol mewn lleoliadau gofal iechyd cymunedol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda chydweithwyr academaidd, partneriaid ymarfer a chyrff proffesiynol i sicrhau bod rhaglenni'n bodloni gofynion rheoleiddio, proffesiynol a'r gweithlu ledled Cymru.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr