Wales Moot team

Un o brosiectau cynharaf Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe oedd ailgyflwyno Cystadleuaeth Ffug Lys Barn Cymru ar ôl saib rhy hir. Ail-lansiwyd y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn 2021 ac ers hynny mae wedi symud o gwmpas Cymru gan gael ei chynnal gan brifysgol wahanol bob blwyddyn. Yn ystod yr amser hwnnw, gwelwyd cynnydd graddol yn nifer y prifysgolion sy'n cymryd rhan a nifer y myfyrwyr sy'n gallu cystadlu o bob prifysgol.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, roedd yn wych gallu trefnu'r digwyddiad i'w gynnal ar gampws hardd Prifysgol Bangor. Roedd llawer o bethau eraill yn digwydd am y tro cyntaf hefyd: ochr yn ochr â chystadleuwyr Abertawe, Caerdydd ac Aberystwyth sydd oll wedi cystadlu bob blwyddyn hyd yn hyn, a'r trefnwyr (Bangor) a oedd yn cymryd rhan am yr eildro, roedd hi'n bleser gennym groesawu Prifysgol Wrecsam am y tro cyntaf.  Cymerodd cyfanswm o naw tîm o bum prifysgol ran yn y gystadleuaeth wrth i ni nesáu at ddigwyddiad a fydd yn cynnwys pob un o'r prifysgolion yng Nghymru. Elfen newydd arall oedd cyfansoddiad y paneli beirniadu - am y tro cyntaf erioed cafodd pob rownd, o'r un ragbrofol i'r un derfynol, ei beirniadu gan aelod o'r farnwriaeth ac roeddem yn falch iawn o groesawu Barnwyr Rhanbarth, Barnwyr Cylchdaith, Cofnodwr a Barnwr yr Uchel Lys, Mr Ustus Nicklin.   Cyfrannodd hyn yn sylweddol at brofiad y myfyrwyr a oedd yn cystadlu, gan o bosib gynyddu eu pryder cyn rhoi eu cyflwyniadau!

Ar ddechrau'r diwrnod, yn yr heulwen hardd, aeth y naw tîm ati i gystadlu mewn dwy rownd ragbrofol dros dair sesiwn. Roedd pob rownd yn seiliedig ar yr yn ffug broblem: achosion tocyn parcio dychmygol a oedd yn cynnwys cwestiwn am gorffori a chwestiwn am gymesuredd. Roedd y safon yn uchel - ac yn ffodus roedd parcio ar gael am ddim, felly doedd dim angen i ddim un o'r barnwyr boeni am gael tocyn parcio wrth iddynt feirniadu yn y gystadleuaeth!

Ar ôl sesiwn y bore, aeth y 4 tîm â'r sgoriau gorau ymlaen i'r rownd gynderfynol. Roedd dau dîm wedi ennill eu dau ymryson: Caerdydd 1 ac Abertawe 1 (o'n prifysgol ni, Honee Crocker - 3edd flwyddyn - a Katie Cooper- 2il flwyddyn) wrth i gystadleuwyr eraill y rownd gogynderfynol gael eu pennu drwy ymrysonau penderfynu: Caerdydd 2 a Bangor 2, roedd y ddau ohonynt wedi ennill un ymryson ac wedi colli un. Roedd ail dîm Abertawe (Wyn Barrett ac Aimee McCullagh- sydd ill dau yn yr ail flwyddyn o'u hastudiaethau) yn un o'r timau a ddaeth yn agos iawn yn yr ymryson penderfynu ar ôl ennill un ymryson a cholli un yn y rowndiau rhagbrofol.

Roedd popeth yn y fantol yn ystod y rownd gynderfynol pan gafodd y cloc ei stopio ar gyfer ymyriad barnwr er mwyn sicrhau bod y beirniaid yn gallu profi'r timau ymhellach fyth. Roedd yr holl fyfyrwyr yn benderfynol iawn wrth iddynt frwydro yn yr ymrysonau a chawson nhw i gyd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid.  Yn y rownd gynderfynol gyda dau dîm o Gaerdydd yn cystadlu, roedd Caerdydd 2 yn fuddugol (Madeleine Teoh a Josie Davis) ac yn yr ymryson penderfynu rhwng Bangor ac Abertawe, aeth Abertawe ymlaen i'r Rownd Derfynol, gan arwain at yr un patrwm a gafwyd yn rownd derfynol y flwyddyn flaenorol. Wrth i'r rowndiau cynderfynol gael eu cynnal, mwynhaodd y timau nad oeddent wedi cymhwyso sgwrs am eiriolaeth, gan ganolbwyntio ar safbwyntiau'r barnwyr a'u disgwyliadau pob dydd yn y llys. 

Yn llywyddu yn y rownd derfynol roedd Mr Ustus Matthew Nicklin, Ei Hanrhydedd y Barnwr Wendy Owen a'i Anrhydedd y Barnwr Gareth Jones, wrth i'r holl gystadleuwyr eraill, yr hyfforddwyr a'r beirniaid wylio. Roedd y frwydr yn agos ond Caerdydd wnaeth gadw'r tlws (gan lwyddo o drwch blewyn i ddal y trên olaf adref!) Llongyfarchiadau enfawr i bawb a gymerodd ran, yn benodol i dimau Abertawe am eu paratoadau gwych! Dyma oedd y tro cyntaf i bob un o'r pedwar gystadlu yn y gystadleuaeth ffug lys barn rhwng y prifysgolion a gwnaeth pob un ohonynt berfformio i safon eithriadol o uchel.

Rhannu'r stori