Cystadleuaeth Rithwir Cynghori Cleientiaid MediateGuru

Pan fydd mis Ionawr yn cyrraedd, bydd myfyrwyr yn aml yn canolbwyntio ar asesiadau ac nid oedd 2025 yn wahanol. Fodd bynnag, mae tymor y cystadlaethau'n mynd yn ei flaen doed a ddêl ac fel sy'n wir yn aml, ym mis Ionawr cynhaliwyd digwyddiad sgiliau cyntaf 2025 - Cystadleuaeth Rithwir Cynghori Cleientiaid MediateGuru. Mae MediateGuru yn cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, yn y maes sgiliau hwn yn ogystal ag mewn negodi a chyfryngu, ac mae timau o Abertawe'n cystadlu'n aml, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â myfyrwyr o bob cwr o'r byd a chael adborth gan feirniaid o awdurdodaethau gwahanol.

 

Eleni, am y tro cyntaf, enillodd Abertawe y gystadleuaeth o ganlyniad i berfformiad gwych gan Nour Altirifi, myfyriwr trosglwyddo yn yr ail flwyddyn sydd wedi ymgyfarwyddo'n wych â'n rhaglen Sgiliau Cyfathrebu ers iddi symud ei hastudiaethau i dde Cymru. Gan chwarae rôl y Cwnsler, bu'n rhaid iddi ddatblygu dynameg gwaith tîm gyda'i chyd-gwnsler ar ôl cael ychydig iawn o gyfle i baratoi. Yna, gyda'i gilydd, bu'n rhaid iddynt ddatblygu perthynas broffesiynol â'u cleientiaid, darganfod y digwyddiadau a oedd wedi'u harwain i'w swyddfa, ac yna eu cynghori ar y camau gweithredu gorau i'w cymryd.

 

Roedd hyn yn gofyn am ystod enfawr o sgiliau, gan gynnwys gwaith tîm, y gallu i feddwl ar ei thraed ac addasu'r lefelau cyfathrebu yn seiliedig ar ddealltwriaeth y cleient o'u blaen. Ar ôl y rowndiau rhagarweiniol, y rowndiau gogynderfynol, y rowndiau cynderfynol a'r rownd derfynol, dyfarnwyd y teitl cyffredinol i Nour - perfformiad gwych yn ei chystadleuaeth gyntaf. Llongyfarchiadau enfawr i Nour a diolch i MediateGuru am drefnu'r digwyddiad.

 

Os hoffech chi ddysgu mwy am Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, e-bostiwch Matthew Parry (m.j.parry@abertawe.ac.uk) neu ewch i'n tudalen Instragram swan_law_skills

Rhannu'r stori