Man on stage.

Ar 6 Chwefror, roedd hi'n fraint gan Ysgol y Gyfraith gynnal Darlith Hale 2024 Cymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol

Traddodwyd y ddarlith gan Syr Peter Fraser, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr ers mis Rhagfyr 2023. Mewn darlith afaelgar, ddifyr ac addysgiadol, siaradodd Syr Peter am waith Comisiwn y Gyfraith ers iddo gael ei sefydlu ac am yr angen parhaus am raglen dreigl o ddiwygio'r gyfraith er mwyn sicrhau bod y gyfraith yn ymaddasu i ddatblygiadau cymdeithasol a thechnolegol, yn ogystal â bod yn hygyrch i bawb.

Roedd y ddarlith yn rhan o gyfres a enwyd er anrhydedd i Farwnes Hale o Richmond, sydd, ymhlith ei chyflawniadau eraill, yn gyn-Lywydd y Goruchel Lys ac yn gyn-Gomisiynydd y Gyfraith. Roedd hi'n bleser mawr gan y trefnwyr groesawu'r Farwnes Hale ar y noson ynghyd ag Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg a chyn-Lywydd diweddaraf Cymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol, yr Athro Paula Giliker.

Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Alison Perry, 'Roedd hi'n anrhydedd cael ein gwahodd i gynnal y ddarlith o fri hon. Roedd hi'n bleser mawr gennym groesawu ein siaradwr a'n gwesteion i Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe a gallu cynnig cyfle i gydweithwyr a myfyrwyr i glywed gan aelod blaenllaw o gymuned y gyfraith. Roedd hi'n arbennig o galonogol gweld cynifer o'n myfyrwyr yn y digwyddiad. Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at wneud y noson mor llwyddiannus.'

 

Rhannu'r stori