
Ar 3 Medi 2025 cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Bwrdd Cynghori Ysgol y Gyfraith Abertawe.
Mae hwn wedi'i sefydlu er mwyn datblygu a chryfhau'r cysylltiadau tair ffordd hanfodol rhwng Ysgol y Gyfraith, ein myfyrwyr, a'u cyflogwyr yn y dyfodol. Pwrpas eang y Bwrdd yw trafod materion fel y cwricwlwm, newidiadau yn y gyfraith, llwybrau i gymhwyso a chyfleoedd i fyfyrwyr yn ogystal â gwrando'n ofalus ar gyflogwyr i ddeall beth maen nhw'n chwilio amdano mewn myfyriwr graddedig modern yn y gyfraith.
Mae ein rhaglenni yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i addasu at anghenion y proffesiwn ac mae'r Bwrdd Cynghori yn allweddol wrth gynorthwyo'r Brifysgol gyda hyn.
Y bwriad yw cynnal cyfarfodydd y Bwrdd tua 3 gwaith y flwyddyn gydag o leiaf 1 cyfarfod wyneb yn wyneb, fel arfer yn Ysgol y Gyfraith ei hun fel yr oedd yr achos ddydd Mercher pan oeddem yn falch iawn o groesawu 47 o fynychwyr yn y ffurf hybrid a ddewiswyd gennym, a 38 wyneb yn wyneb. Cynhaliwyd ystod o drafodaethau yn amrywio o broses gymhwyso'r SQE i gyfleoedd am leoliadau gwaith a phrofiad gwaith. Roedd yn drafodaeth fywiog ac ysgogol a arweiniodd at lwybrau adeiladol a hyfyw i ddatblygu'r perthnasoedd.
Ar hyn o bryd mae'r cwmnïau/siambrau/sefydliadau canlynol yn aelodau o Fwrdd Cynghori Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton:
- A&O Shearman
- Acuity Law
- Admiral law
- Cyfreithwyr ADVE
- Agri Advisor
- Angel Chambers
- Burges Salmon
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Devonald Griffiths John Solicitors
- Douglas-Jones Mercer
- Cyfreithwyr DW Harris & Co
- Eversheds Sutherland
- Cynrychiolydd o'r sector ariannol
- Gomer Williams & Company
- Graham Evans & Partners
- Hugh James
- Yr Awdurdod Monitro Annibynnol
- Iscoed Chambers
- JCP Solicitors
- JNP Legal
- Moore Barlow
- Morgan LaRoche
- Newfields Law
- Pendragon Chambers
- Peter Lynn & Partners
- Cynrychiolydd o'r Heddlu
- Price & Kelway
- Y Gwasanaeth Amddiffynwyr Cyhoeddus
- Red Kite Solicitors
- Reeds Solicitors
- Smith Llewelyn Partnership
Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â'r Bwrdd Cynghori, cyfeiriwch nhw at ein Harweinwyr Cyflogadwyedd Mr Geraint Fry yn g.i.fry@abertawe.ac.uk neu Dr Matthew Parry yn m.j.parry@abertawe.ac.uk.