Mae Morgan McEachen, sydd wedi graddio o Bartneriaeth Trent-Abertawe'n ddiweddar, wedi sicrhau rôl yn gweithio gyda dioddefwyr trais domestig, gan ei galluogi i roi'r sgiliau a'r wybodaeth a ddysgwyd ganddi yn Abertawe ar waith yn uniongyrchol.
Astudiodd Morgan, sy'n hanu o Ganada, LLB yn y Gyfraith a hithau’n fyfyrwraig ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n teimlo bod y profiad gwaith a gwirfoddoli a gafodd drwy'r brifysgol wedi rhoi'r sylfaen a'r hyder iddi ddilyn gyrfa ym maes cyfraith teulu.
Yn ystod ei hamser yn Abertawe, gwirfoddolodd Morgan yng Nghlinig y Gyfraith Abertawe, lle cafodd y cyfle i gysgodi apwyntiadau cyfreithiol, cymryd cofnodion achos ar gyfer cyfreithwyr wrth eu gwaith, a gweithio ar Ddiwrnod Cyfiawnder Hinsawdd Clinig y Gyfraith. Rhoddodd ei gwaith gwirfoddol yn y clinig ymagwedd ymarferol at ddysgu am y gyfraith, a'r cyfle i gyfranogi mewn gwaith a oedd o fudd i'r gymuned ehangach.
Yn ogystal â'i gwaith gwirfoddol, cafodd Morgan y cyfle i gwblhau profiad gwaith ym mhartneriaeth Smith Llewelyn yn Abertawe. Yn y rôl hon, gwnaeth ymuno â chleientiaid a chyfreithwyr yn y llys, darllen ffeiliau achosion cyfreithiol a chysgodi cyfreithwyr mewn meysydd cyfreithiol amrywiol.
Helpodd y profiad hwn i feithrin ei sgiliau cyfathrebu ac eirioli, ac atgyfnerthu ei gwybodaeth ymarferol am fod yn gyfreithiwr. Yn ogystal, cafodd Morgan y cyfle i gysgodi'r Barnwr Rhanbarth, Graham Jones, yng Nghanolfan Cyfiawnder Port Talbot yng Nghymru, y DU. Rhoddodd y profiad hwn ddealltwriaeth werthfawr iddi o brosesau achosion llys cyfraith gyhoeddus mewn cyfraith teulu a'r Llys Gwarchod.
Yn dilyn hyn, ym mis Awst 2024, bydd Morgan yn dechrau gweithio fel myfyriwr erthyglu yn Luke’s Place yn Oshawa, Ontario, Canada. Mae Luke’s Place yn sefydliad nid-er-elw sy'n darparu gwasanaethau cyfraith teulu i fenywod a phlant sy'n profi trais gan bartner personol. Mae'n edrych ymlaen at ddarparu gwasanaethau cyfreithiol i bobl sy'n agored i niwed a mabwysiadu ymagwedd ffeministaidd groestoriadol at fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod drwy gyfraith teulu.
Gan drafod ei phrofiadau, meddai Morgan:
“Ces i brofiadau addysgol a chymhwysol drwy Brifysgol Abertawe a roddodd lawer o oleuni i mi, gan fy helpu go iawn i lwyddo ar ôl ysgol y gyfraith. Rwy'n ddiolchgar am y perthnasoedd a'r cyfeillgarwch proffesiynol rwyf wedi eu derbyn gan fy mentoriaid a'm hathrawon yn Abertawe!”