Professor Soyer with Swansea University Alumni in Istanbul

Yr Athro Soyer yn Cysylltu ag Alumni LLM Abertawe yn ystod Ymweliad ag Istanbul

Yn ystod ymweliad diweddar ag Istanbul, cafodd yr Athro Soyer gyfle i gwrdd â nifer o gyn-fyfyrwyr LLM Abertawe sy’n byw ac yn gweithio yn y ddinas. Daeth y cyfarfod â graddedigion ynghyd sy’n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol blaenllaw, gan gynnwys Esenyel Partners, Tufekci Law Firm, Ersoy Bilgehan Lawyers & Consultants, BB Partners Law a Sarigol Law Office.

Wrth fyfyrio ar y cyfarfod, dywedodd yr Athro Soyer:
“Roedd hi’n wych gweld ein cyn-fyfyrwyr a chlywed pa mor dda y maent yn symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Yr hyn sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw cryfder allweddol: defnyddio eu graddau LLM yn rhagorol a pharhau i elwa o’r cysylltiadau a wnaethant yn ystod eu hamser yn Abertawe. Mae hyn yn hynod bwysig i mi fel Cyfarwyddwr Rhaglenni LLM S&T yn Abertawe ac i’m cydweithwyr i gyd sy’n gweithio’n ddiflino i sicrhau ein bod yn paratoi ein graddedigion yn y ffordd orau bosibl ar gyfer bywyd ar ôl eu profiad LLM yn Abertawe.”

Mae rhaglenni LLM Abertawe yn cael eu cydnabod yn fyd-eang ac yn parhau i ddenu myfyrwyr o bob rhan o’r byd. Mae’r rhain yn cynnwys yr LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol, LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol, LLM mewn Technoleg Gyfreithiol a Chyfraith Fasnachol, LLM mewn Cyfraith Ynni ac LLM mewn Cyfraith Fasnach Ryngwladol.

Rhannu'r stori