Mae Sgôr STUMBL yn fodel rhagfynegi sydd wedi trawsnewid y ffordd mae cleifion ag anafiadau a all fod yn ddifrifol i'r frest yn cael eu rheoli.
Wedi'i ddatblygu gan yr Athro Ceri Battle (ffisiotherapydd gofal critigol a meddygaeth argyfyngus) fel rhan o'i hymchwil PhD gydag Uned Dreialon Prifysgol Abertawe (gan weithio ochr yn ochr â’r Athro Hayley Hutchings a'r Athro Alan Watkins, Dr Claire O'Neill a Mr Tim Driscoll), mae'r model yn sgorio 5 darn o wybodaeth glinigol a gesglir yn rheolaidd, i ragfynegi risg y claf o ddatblygu cymhlethdodau y byddai angen triniaeth bellach arnynt.
Datblygu’r Sgôr
Cafodd yr angen am ymyrraeth newydd ei gydnabod yn gyntaf gan grŵp o glinigwyr, gan gynnwys yr Athro Battle, wrth i gleifion ddatblygu cymhlethdodau wedi'u gohirio, oherwydd nad oeddent wedi cael y gofal gorau posib yn ystod eu hymweliad cyntaf â’r ysbyty.
I fynd i'r afael â'r mater hwn yn uniongyrchol, cafodd y Sgôr ei datblygu, i alluogi gwneud penderfyniadau effeithiol o ran lle gall claf gael y driniaeth orau. Gall sgôr isel arwain at glaf yn cael ei ryddhau'n ddiogel i adfer gartref, lle gall sgôr uchel arwain at ymyriadau ar wardiau ysbytai, neu hyd yn oed mewn unedau gofal dwys.
Bellach, mae’r Sgôr hefyd yn cael ei defnyddio'n rheolaidd i ddylanwadu ar benderfyniadau o ran lliniaru poen, a chyfeirio at adrannau arbenigol eraill (megis ffisiotherapi, gwasanaethau poen acíwt, neu hyd yn oed anesthetig ar gyfer lliniaru poen mewnwthiol, gan wella gofal a chanlyniadau cleifion.
Gwella Gofal Ar Draws Y DU
Ers ei sefydlu, mae’r Sgôr STUMBL wedi cael ei mabwysiadu'n eang; bellach mae’n cael ei defnyddio fel offeryn sy'n dylanwadu ar benderfyniadau i ryddhau cleifion mewn o leiaf 56% o ysbytai ar draws y wlad, gan gynnwys pob un o’r pedair Canolfan ar gyfer Trawma Mawr yn rhwydwaith Llundain.
Mae'r data ar ei defnydd a'i chanlyniadau'n aruthrol; mae dros 4,000 o gleifion mewn un ysbyty yn unig yn Llundain wedi cael eu rheoli gan ddefnyddio’r Sgôr, gan arwain at ansawdd gofal gwell, gwell mynediad at boenlinaryddion, yn ogystal â lleihau'r risg o ddatblygu cymhlethdodau.
Mae llwybr ffisiotherapi ar sail y Sgôr hefyd ar waith yn lleol yn Ysbyty Treforys, Cymru, sydd wedi arwain at leihau'r cyfartaledd arhosiad yn yr ysbyty gan ddau ddiwrnod, a marwolaethau yn yr ysbyty'n lleihau o 4% i 0% yn ystod y cyfnod casglu data.
Gweithredu'n Rhyngwladol
Mae’r defnydd o Sgôr STUMBL yn lledaenu’n eang, gyda nifer cynyddol o bwrpasau, sy'n croesi ffiniau rhyngwladol. Bellach, mae’r Sgôr yn cael ei hargymell i'w defnyddio mewn canllawiau cenedlaethol mewn gwledydd gan gynnwys Iwerddon, Seland Newydd, yr Iseldiroedd, Sbaen ac UDA. Gellir dod o hyd i ddwy enghraifft effeithiol o hyn yn Melbourne a Cork.
Bellach, mae’r Sgôr yn cael ei defnyddio i reoli ffisiotherapi yn Melbourne, Awstralia. Mae cleifion hŷn, bregus, uchel eu risg yn cael eu targedu i gael triniaeth ddwys, yn seiliedig ar eu sgôr, sydd wedi arwain at gyfraddau uwch o gleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty oherwydd eu bod yn gallu cael eu rheoli'n ddiogel yng nghysur eu cartrefi eu hunain.
Mae’r Sgôr hefyd yn dylanwadu ar ymyriadau rheoli poen yn Ysbyty Prifysgol Cork, a gyflwynodd y Sgôr fel rhan o'u llwybr Triniaeth ar gyfer Trawma i'r Frest. Gwnaeth hyn arwain at gael poen-laddwyr o fewn 12 awr o gael eu derbyn i’r ysbyty ar gyfartaledd (sydd wedi disgyn o 43 awr), a lleihau hyd y cyfartaledd arhosiad o 9 niwrnod i 3.
Ar y Rheng Flaen
Yn Wcráin, mae Sgôr STUMBL hefyd yn cael ei defnyddio i reoli cleifion mewn chwe ysbyty rheng flaen, gan drin y rhai hynny sydd ag anafiadau treiddiol i'r frest, o ganlyniad i ffrwydradau.
O ganlyniad i weithio'n uniongyrchol gyda'r Athro Battle i weithredu'r Sgôr, mae Ysbyty Prifysgol Meddygol Cenedlaethol Vinnitsia bellach yn adrodd bod dros 200 o gleifion sydd ag anafiadau o ganlyniad i wrthdaro wedi cael eu rheoli gan ddefnyddio’r Sgôr ers 2022, gan arwain at leihau’r cyfartaledd amser, o frysbennu i wneud penderfyniad o ran rheoli cleifion, o 54 munud i 38 munud.
Mae cyfraddau derbyn myfyrwyr hefyd wedi gostwng o 35% i 18% yn dilyn ei gweithrediad; gan arwain at leihau’r pwysau sydd ar adnoddau cyfyngedig rheng flaen, llai o ymweliadau diangen â’r ysbyty i gleifion, a nifer sylweddol llai o unigolion yn datblygu cymhlethdodau sy'n ymwneud a'u hanaf gwreiddiol.
Mae'r Athro Battle wedi bod yn y wlad yn ystod y gwrthdaro yn Wcráin, gan roi arweiniad ar y gwaith o reoli anafiadau i'r frest gan defnyddio’r Sgôr mewn cynhadledd genedlaethol, a hefyd wedi cyflwyno addysgu ar-lein tebyg i ffisiotherapyddion ar draws Gaza.
Dyfodol Triniaeth Trawma Pŵl I'r Frest
Mae’r defnydd o’r Sgôr yn lledaenu ymhellach, yn y gobaith y gallai gael ei ymestyn i ddefnydd cyn-ysbyty; sy'n golygu y bydd Parafeddygon hefyd yn gweithredu’r Sgôr gyda chleifion ar y pwynt cyswllt cyntaf mewn lleoliadau gofal iechyd brys, yn ogystal â'i defnydd parhaus mewn adrannau achosion brys.
Ar hyn o bryd mae'r Athro Battle yn datblygu hyn ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST), yn y gobaith y gall gael ei lledaenu'n ehangach cyn gynted â phosibl, gan wella gofal a chanlyniadau cleifion ar draws y wlad.