Gwyliwch nawr! Gall un o'n dosbarthiadau meistr helpu chi penderfynnu ar gwrs.

Mae ein Cyfres Dosbarthiadau Meistr yn rhoi cyfle i chi gael blas ar ein cyrsiau drwy weminarau ar-lein. Os ydych chi eisoes wedi dewis pwnc neu’n dal i benderfynu, mae’n ffordd wych o ddysgu mwy. 

Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan ein hacademyddion ac yn cynnig y cyfle i:

  • Gael teimlad o sut beth yw darlithoedd prifysgol
  • Archwilio sawl pwnc o ddiddordeb
  • Casglwch ddeunydd ar gyfer eich datganiad personol

 Sylwer, cyflwynir y sesiynau hyn yn Saesneg yn unig.


Opsiynau Cyllid Bwrsariaeth y GIG

Oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs Israddedig y GIG, megis Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau, Gwyddor Barafeddygol neu Wyddor Gofal Iechyd? Ymunwch â ni i ddeall yr opsiynau cyllid gwahanol sydd ar gael a gofyn unrhyw gwestiynau y gall fod gennych, gyda'n tîm Bwrsariaeth y GIG ymroddedig!


Arwyddion Trydanol o Fywyd: Sut mae Gwyddoniaeth Ffisiolegol yn rhoi Diagnosis

Ydych chi'n ystyried cyflwyno cais am gwrs clinigol yn y Brifysgol? Mae cyfweliadau prifysgol ar gyfer cyrsiau gofal iechyd a chlinigol yn rhan hollbwysig o'r broses ddethol. Ymunwch â ni i glywed am beth i'w ddisgwyl gydag awgrymiadau i gael cyfweliad llwyddiannus.


Does dim angen addysg arnom - neu oes e?

Ymunwch â'n gweminar lle rydym yn cwestiynu diben addysg, yn cwestiynu a yw ysgolion yn dal i fod yn bwysig, yn craffu ar anghydraddoldeb digidol ac yn archwilio sut mae AI yn ail-lunio ein dealltwriaeth o addysg. Byddwn yn trafod materion go iawn, yn dychmygu posibiliadau newydd ac yn darganfod sut y gall astudio yn y brifysgol eich paratoi.


Datblygu meddylfryd ar gyfer llwyddiant cynaliadwy

Dyma'ch cyfle i ddysgu sut i feddwl yn wahanol, gwneud penderfyniadau gwybodus, dysgu'n gyflym o'ch methiannau, sbarduno arloesedd a deall gwerth go iawn adnoddau. Mae datblygu meddylfryd entrepreneuraidd yn hanfodol ym myd busnes. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio'r offer angenrheidiol i gael llwyddiant cynaliadwy.


Sut i gael y mwyaf o Ffair UCAS neu Arddangosfa Uni Search UK

Ydy eich ysgol neu'ch coleg wedi cadw lle mewn ffair neu arddangosfa ond ddim yn gwybod beth mae angen i chi ei wneud tra byddwch chi yno? Dyma ganllaw cyflym am yr hyn i'w ddisgwyl mewn arddangosfa fawr a'r ffordd orau o ryngweithio â'r prifysgolion a'r cyflogwyr drwy ofyn y cwestiynau sy’n iawn i chi!


Gwyliau Mwy Diogel: Lleihau Niwed, Gwirio Cyffuriau ac Iechyd Cyhoeddus

Gan ddefnyddio ymchwil gwyliau yn y DU, mae'r weminar hon yn archwilio gwasanaeth welfare-first harm reduction, gwasanaethau gwirio cyffuriau, a pham y gall polisïau cyffuriau cosbol gynyddu risg. Mae'n tynnu sylw at sut mae dulliau iechyd cyhoeddus yn gwella diogelwch, ymddiriedaeth, a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus.


Pam nad ydym yn gofyn cwestiynau? - Cipolwg Economaidd ar Ganlyniadau Addysgol

Bydd y weminar yn archwilio pam fod disgyblion yn aml yn osgoi gofyn cwestiynau pan nad ydynt yn deall pwnc. Gall hyn eu niweidio nhw a hefyd eu cyfoedion. Gan ddefnyddio cwestiynau syml, byddwn yn archwilio pam mae hyn yn digwydd ac yn dangos sut y gall economegwyr helpu i ddeall ymddygiadau syml all arwain at ganlyniadau cymhleth.


A yw 'Genyn Pencampwr' yn cuddio yn eich DNA? Y genynnau tu ôl i ddawn chwaraeon

Ymunwch a ni i archwilio sut y gall genynnau ddylanwadu ar nodweddion fel dygnwch, cryfder a chyflymder. Mae'n ystyried a all amrywiad genynnol gyfrannu at fanteision ar lefel y boblogaeth ym myd chwaraeon, wrth amlygu bod perfformiad chwaraeon yn deillio o'r rhyngweithio rhwng geneteg a'r amgylchedd.


Daearyddiaeth: Pam mae ein sanau yn dinistrio coedwigoedd glaw

Ydych chi'n meddwl bod eich sanau yn ddiniwed? Meddyliwch eto! Yn y sesiwn ddiddorol hon, byddwn yn dechrau gyda themâu mawr gradd daearyddiaeth - globaleiddio, anghydraddoldeb, cynaliadwyedd, wedyn yn gweld sut mae cadwyni cyflenwi byd-eang yn cysylltu cynhyrchion pob dydd â cholli coedwigoedd maint Llundain bob wythnos.


Yn eich gwaed: Canfod canser yn gynharach gyda phlatennau

Darganfod sut gall DNA newydd yn y platennau arwain at ganfod canser yn gynharach ac yn fwy cywir trwy brawf gwaed syml, sy'n datgelu signalau genetig - gan gynnwys newidiadau cyn ganseraidd - sy'n cael eu hanwybyddu gan y dulliau sgrinio presennol.


Etholiad Y Senedd 2026: Yr hyn y mae pobl yng Nghymru yn ei feddwl.

Bydd 2026 yn flwyddyn ddiddorol iawn i Wleidyddiaeth yng Nghymru. Am y tro cyntaf bydd pleidleiswyr yn mynd i'r gorsafoedd pleidleisio gan ddefnyddio system etholiadol gyfrannol ar sail rhestr gaeedig. Does dim amser gwell i ymchwilio i beth mae pobl yn ei feddwl am wleidyddiaeth yng Nghymru. Ymunwch â ni am sesiwn ar etholiad y Senedd.


Deall UCAS: Termau allweddol, amserlenni a Chlirio

Nid oes rhaid i UCAS fod yn ddryslyd. Yn y weminar hon, rydym yn esbonio'r jargon dryslyd, yn egluro'r amserlenni ac yn datgelu sut mae Clirio'n gweithio, fel eich bod yn gwybod yr hyn i'w ddisgwyl a rheoli eich dewisiadau.


Olinyddion i Diwmorau: Y defnydd o ymbelydredd yn y llwybr canser

Ymunwch a ni i archwilio ffyrdd gwahanol o ddefnyddio ymbelydredd mewn gofal iechyd, gan gynnwys chwilio am ganser y tu mewn i glaf. Dysgwch sut mae technolegwyr meddygaeth niwclear yn gwneud sganiau gan ddefnyddio deunydd ymbelydrol a sut mae dosimetryddion ffiseg radiotherapi yn trin canserau.


Diwrnod ym mywyd myfyriwr Abertawe - Sesiwn iaith Gymraeg

Darganfyddwch sut beth yw bod yn fyfyriwr sy'n siarad Cymraeg ac yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Dewch i gwrdd â myfyrwyr presennol a fydd yn trafod bywyd campws, eu straeon myfyrwyr a'r hyn sy'n gwneud astudio yn Abertawe mor arbennig - wrth archwilio diwylliant ac iaith bywiog Cymru.


Deunyddiau Byd Natur: Ysbrydoliaeth Fiolegol ar gyfer Peirianneg Yfory

Beth am archwilio byd cudd deunyddiau ym myd natur - o ystifflog i sgerbydau allanol pryfed - a sut mae gwyddonwyr a pheirianwyr yn eu hastudio. Byddwn yn edrych y tu mewn i strwythurau naturiol mewn ffordd 3D, yna'n gweld sut mae ysbrydoliaeth fiolegol yn helpu i ddylunio deunyddiau ysgafnach, cryfach a mwy cynaliadwy.


Recordiadau blaenorol

Os hoffwch chi gwylio hyd yn oed fwy o sesiynau blaenorol, gallwch nawr ddal i fyny ar ein gweminarau Head Start gyda'r recordiadau isod.

Sylwch fod yr holl gyngor a roddir yn gywir ar adeg ei bostio, ac mae cyngor pellach ar gael ar draws ein gwefan. Os hoffech wneud cais am gapsiynau ar gyfer y fideos hyn, anfonwch e-bost at y Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr.

Gwyliwch mwy o recordiadau Dosbarthiadau Meistr blaenorol