
Mohsin Ali
- Gwlad:
- Pakistan
- Cwrs:
- PhD Peirianneg Sifil
Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
- Y gwyntoedd - Mae rhywbeth iachusol ac unigryw am yr awel yma, yn enwedig wrth fynd am dro yn gynnar yn y bore.
- Y traethau - Mae morlin Abertawe'n odidog. Mae'n ddihangfa berffaith pan fydda i'n chwilio am ysbrydoliaeth neu angen ymlacio.
- Y bobl - gynnes, groesawgar a bob tro'n barod i helpu. Mae'n teimlo fel ail gartref.
Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Roedd Prifysgol Abertawe'n sefyll allan i mi oherwydd ei henw rhagorol am ymchwil ym maes Peirianneg Sifil. Roedd y brifysgol yn cynnig y cydbwysedd cywir rhwng trylwyredd academaidd a chyfleoedd ymchwil ymarferol, yn enwedig ym maes isadeiledd a chynaliadwyedd amgylcheddol, sy'n cyd-fynd yn berffaith â’m nodau fel ymchwilydd PhD.
Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Y rhan fwyaf cyffrous o'm PhD yw cyfrannu at ymchwil wreiddiol. Mae archwilio meysydd nad oes neb wedi ymchwilio iddynt o'r blaen a mynd i'r afael â heriau peirianneg byd go iawn drwy feddwl yn arloesol yn hynod wobrwyol. Mae'r cyfle i ychwanegu rhywbeth newydd at yr wybodaeth yn fy nghymell bob dydd.
Beth rydych chi’n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio?
Fel darlithydd ym Mhacistan, fy nod yw rhannu'r wybodaeth, y gwerthoedd a'r sgiliau rydw i'n eu meithrin yma yn Abertawe. Rydw i eisiau grymuso'r ieuenctid, sicrhau bod ganddynt bersbectifau byd-eang, ac rydw i eisiau helpu i lunio cenhedlaeth sy'n gystadleuol, yn gyfrifol ac sy'n ymrwymedig i ddatblygiad Pacistan. Byddaf yn canolbwyntio ar elfennau academaidd a chymdeithasol, gan ysbrydoli myfyrwyr i ddatblygu'n gyfannol.
A fyddech chi’n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Byddwn, yn bendant! Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig cyfuniad unigryw o ragoriaeth academaidd a bywyd myfyrwyr. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon, darllen, neu ddigwyddiadau cymunedol, mae lle i bawb. Mae'r sesiynau Bod yn ACTIF yn berffaith i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn chwaraeon, tra bod cymdeithasau megis y clwb llyfrau a grwpiau diwylliannol yn cynnig ffyrdd diddorol o gysylltu a thyfu. Mae'n amgylchedd bywiog, cynhwysol a chefnogol.
Ydych chi wedi byw mewn neuaddau preswyl/tai i fyfyrwyr neu gartref yn ystod eich astudiaethau?
Rydw i'n byw mewn llety i fyfyrwyr yn agos at ganol y ddinas. Mae'n gyfleus ac rydw i'n agos at bopeth. Ar gyfer y rhai hynny sy'n deffro'n gynnar, mae byw yn y ddinas yn berffaith - ond os nad ydych chi'n hoffi deffro'n gynnar, efallai y byddai llety ar y campws yn ddewis gwell!
Ydych chi wedi defnyddio'r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Ydw, trefnais sesiwn gwnsela gyrfaol a oedd yn ddefnyddiol iawn wrth fy helpu i lunio fy nghyfeiriad academaidd a phroffesiynol. Roedd y staff yn ystyrlon ac yn gefnogol.
Pa gyfleusterau rydych chi wedi mwynhau eu defnyddio fel rhan o'ch cwrs a pham?
Mae'r offer labordy datblygedig a chael mynediad at uwch-gyfrifiadur y Brifysgol wedi bod yn amhrisiadwy. Maen nhw wedi fy ngalluogi i gynnal efelychiadau ac arbrofion ar lefel nad oeddwn i wedi'i phrofi o'r blaen.
Ydych chi’n gallu siarad Cymraeg? Os ydych, ydych chi wedi astudio yn y Gymraeg neu wedi ymwneud ag unrhyw gymdeithasau Cymraeg ac ati?
Dim eto - ond rydw i'n bwriadu dysgu'r Gymraeg. Rydw i'n credu bod iaith yn bont i ddeall diwylliant, a byddwn i wrth fy modd yn archwilio mwy o dreftadaeth Gymreig.