Niomi Darby

Niomi Darby

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Seicoleg

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Dewisais i astudio yn Abertawe oherwydd fy mod yn byw yma, ac oherwydd bod y cwrs Seicoleg wedi'i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain ac roedd yn debyg bod pobl yn ei fwynhau'n fawr.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Rwy'n caru'r pwnc, ac mae'r materion rydym wedi eu trafod wedi bod mor ddiddorol ac wedi'u haddysgu â chymaint o frwdfrydedd! Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fy nhrydedd flwyddyn i ddewis modiwlau penodol ac i ymgymryd â fy mhrosiect blwyddyn olaf!

Beth rydych chi'n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio?
Byddwn yn caru gwneud rhywbeth sy'n cynnwys defnyddio data i helpu pobl.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, oherwydd ansawdd y cwrs a'r cyfleoedd sydd ar gael yn y Brifysgol. Mae'r lleoliad yn wych hefyd, ger y traethau, Gerddi Clun a Phenrhyn Gŵyr. Mae'r brifysgol hefyd yn gymwynasgar iawn o ran amgylchiadau esgusodol.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Roeddwn i wedi gwneud interniaeth marchnata rhan-amser dros yr haf yn y brifysgol oedd yn brofiad gwych! Dwi hefyd newydd gychwyn gwirfoddoli fel Llysgennad Myfyriwr ar gyfer YGAM felly rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw tuag at achos mor arbennig!