Sarika Mohan

Sarika Mohan

Gwlad:
India
Cwrs:
MSc Hysbyseg Iechyd

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/yr ardal)?
1. Y traeth!
2. Mae'r ddinas a'i phobl yn gynnes ac yn groesawgar (er nad yw'r tywydd bob amser cystal).
3. Mae costau byw yn Abertawe’n llawer gwell na dinasoedd mawr eraill.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Roedd modiwlau fy rhaglen yn fwy addas i fy meysydd penodol o ddiddordeb, ac mae gan Brifysgol Abertawe enw da am gyfleoedd ymchwil uchel.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Fy hoff ran o fy nghwrs oedd y cyfle i gael fy mentora gan Gyfarwyddwr ein Rhaglen, a wnaeth fy helpu i ymgymryd ag ymchwil sylfaenol i’r maes Gofal Iechyd y mae gen i ddiddordeb mawr ynddo.

Beth rydych chi'n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio/beth rydych chi'n mynd i’w wneud ar ôl graddio?
Rwy'n ddarlithydd ar hyn o bryd yn yr un rhaglen y graddiais ohoni. Fy mreuddwyd oedd mynd i'r byd academaidd ac mae wedi'i wireddu. Rwy'n hapus i fod yn gweithio ochr yn ochr â darlithwyr ardderchog, ac rwy'n gobeithio cyflawni fy nod o ennill PhD yn yr un maes gyda'u cymorth.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Byddwn yn ei hargymell. Mae Abertawe un yn o ddinasoedd tawel y DU, ac mae'r costau byw yn fforddiadwy iawn yma, yn enwedig i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Ydw, y Gymdeithas Asiaidd, y Gymdeithas Tamil

Ydych chi wedi byw mewn neuaddau preswyl/tai i fyfyrwyr neu gartref yn ystod eich astudiaethau?
Rydw i wedi byw mewn llety i fyfyrwyr (Seren).

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Ydw, fel myfyriwr llysgennad ar gyfer Prifysgol Abertawe.