
Ddydd Llun 5 Rhagfyr 2022, cynhaliodd y BioHYB Cynhyrchion Naturiol weithdy rhyngweithiol fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Gwnaeth y digwyddiad o'r enw Challenges and opportunities for Net Zero agriculture, fynd i'r afael â'r heriau y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn eu hwynebu pan ddaw at newid yn yr hinsawdd.
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru'n ddigwyddiad blynyddol a arweinir gan Lywodraeth Cymru, sy'n dod ag unigolion, cymunedau, grwpiau amgylcheddol, academyddion, busnesau a'r sector cyhoeddus ynghyd i gael sgwrs fwysig am newid yn yr hinsawdd. Bydd yr holl ddigwyddiadau'n arwain strategaeth newydd er mwyn cael y cyhoedd i weithredu ar newid yn yr hinsawdd.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o effaith newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau natur ar gymunedau gwledig, amaethyddiaeth a chynaliadwyedd bwyd. Y nod oedd deall a thrafod:
* Yr heriau y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn eu hwynebu o ran newid yn yr hinsawdd
* Allyriadau o ffermio/weithgareddau amaethyddol, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o ffynonellau allyriadau,
* Effaith arferion gwahanol a pha rwystrau cyfreithiol/polisi a geir wrth fabwysiadu arferion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd
* Rhannu gwybodaeth ac arferion gorau i leihau allyriadau
* Cyfleoedd rhwydweithio a chyfranogi â rhanddeiliaid allweddol i lunio polisi ar gyfer ffermio sero net
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru'n ddigwyddiad blynyddol a arweinir gan Lywodraeth Cymru, sy'n dod ag unigolion, cymunedau, grwpiau amgylcheddol, academyddion, busnesau a'r sector cyhoeddus ynghyd i gael sgwrs fwysig am newid yn yr hinsawdd.
Meddai Rheolwr Prosiect y BioHYB Cynhyrchion Naturiol, Dr Farooq Shah:
'Mae cynhyrchion naturiol yn fwy cynaliadwy ac yn aml yn meddu ar allyriadau is felly'n cyfrannu at dargedau sero net. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gyfranogwyr ddysgu am yr ymchwil a'r dechnolegau diweddaraf y gellir eu mabwysiadu i leihau allyriadau o arferion amaethyddol a helpu i ddatblygu strategaethau ar gyfer amaethyddiaeth sero net. Un o amcanion allweddol y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yw gweithio gyda busnesau a chymunedau i ddeall eu hanghenion a chyd-greu atebion gan gynnwys uwchsgilio'r gweithlu. Edrychwn ymlaen at rannu ein canfyddiadau allweddol â Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymgynghoriad ar gynllun gweithredu ar newid hinsawdd Cymru.