Beth yw clirio?
Clirio yw cam olaf y broses recriwtio flynyddol i sefydliadau addysg uwch, ac mae'n amser pwysig sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ailystyried eu dewisiadau. Mae'r broses Glirio yn agored i unrhyw un nad yw eisoes wedi cael cynnig gan brifysgol neu goleg, a lle mae lleoedd ar gael o hyd ar gyrsiau.
Mae'n addas hefyd i'r rhai sydd wedi cael cynnig, ond sydd wedi newid eu meddwl am eu dewis gwrs neu brifysgol, efallai am eu bod wedi gwneud yn well na'r disgwyl. Mae'n bwysig hefyd i fyfyrwyr sy'n methu ennill y graddau gofynnol i fynd i'w dewis cadarn neu yswiriant, am fod hyn yn eu galluogi i ddechrau eu taith brifysgol yn yr un flwyddyn, er gwaethaf hynny.
Pam y byddwn i'n defnyddio clirio?
Mae nifer o resymau pam y gallwch chi ddewis mynd trwy glirio:
- Nid ydych wedi cyflawni'r graddau yr oeddech yn eu disgwyl
- Rydych chi wedi cyflawni graddau gwell na'r disgwyl
- Rydych chi wedi newid eich meddwl am y brifysgol rydych chi eisiau astudio ynddi
- Rydych chi eisiau newid i gwrs arall
- Dydych chi ddim wedi gwneud cais i astudio yn unrhyw le ond wedi penderfynu yr hoffech chi fynd i'r brifysgol ym mis Medi.
Beth bynnag yw'r rheswm, gall Clirio fod yn gyfle i sicrhau lle prifysgol sy'n hollol iawn i chi!
Sut mae Clirio yn gweithio?
Gallwch wirio'ch cyfrif UCAS i weld a ydych chi'n gymwys i Glirio.
Ni fydd UCAS yn anfon unrhyw beth yn y post i ddweud wrthych a ydych chi'n gymwys, felly mae'n bwysig eich bod chi'n gwirio ar-lein.
Os ydych chi'n gymwys ar gyfer Clirio bydd botwm 'Add Clearing choice' yn ymddangos ar eich sgrin 'Choices' yn UCAS, a gallwch ei ddefnyddio i dderbyn lle ar gwrs a gynigiwyd i chi trwy Glirio.
Ydw i'n gymwys ar gyfer Clirio?
Byddwch yn gymwys ar gyfer Clirio os:
- Rydych chi'n gwneud cais ar ôl y 5ed o Orffennaf
- Nid ydych yn dal unrhyw gynigion gan brifysgolion neu golegau rydych wedi gwneud cais iddynt
- Nid oes cynnig lle gennych chi na chynnig amodol ar ôl canlyniadau'r arholiadau.
Sut i wneud cais yn ystod Clirio?
Dilynwch y camau hyn a byddwch yn barod ar gyfer Clirio 2025.
- Ar ddiwrnod y canlyniadau gwiriwch eich cyfrif UCAS. Bydd eich statws cais yn dweud wrthych a ydych yn gymwys ar gyfer Clirio.
- Edrychwch ar wefan y brifysgol i weld pa gyrsiau sydd ar gael yn ystod Clirio.
- Cysylltwch â'ch prifysgolion ar y rhestr fer a siaradwch ag ymgynghorydd am eich opsiynau. Bydd angen:
- Eich Graddau
- Dewis cwrs
- Rhif UCAS
- Mynnwch gynnig! Fel arfer mae gennych 24 awr i dderbyn cynnig cyn y bydd yn cael ei ryddhau yn ôl i'r pwll Clirio.
- Os ydych chi eisiau derbyn cynnig Clirio, ewch i'ch Hwb UCAS, fe welwch fotwm 'Add a Clearing option'. Yma y gallwch chi roi manylion eich prifysgol a chwrs.
Os ydych chi'n mynd trwy Clirio, peidiwch gofidio, bydd Abertawe yn rhoi cyfle i chi ac yn gweld beth yw'r opsiwn orau i chi
Lucy,
sy'n astudio Geneteg Feddygol
Eich profiad
Cyn gwneud galwad ffôn ar gyfer Clirio, gwnewch yn siŵr eich bod yn barod oherwydd efallai y gofynnir ichi am eich gwaith ysgol neu'ch profiad. Bydd rhai cynghorwyr yn gwneud penderfyniad ar sail eich graddau tra bydd eraill yn gofyn cwestiynau i asesu'ch diddordeb yn y cwrs o'ch dewis.
Paratoi nodiadau
Efallai y byddai'n ddefnyddiol paratoi rhai nodiadau ar pam rydych chi am ymuno â'r brifysgol a beth sydd o ddiddordeb i chi yn y cwrs rydych chi'n gwneud cais amdano.
Pryd mae Clirio yn cau?
Gall hyn ddibynnu ar bob sefydliad ond mae Clirio yn Abertawe yn gallu gorffen mor hwyr a mis Hydref os oes dal lle ar y cyrsiau.
Os na gawsoch chi na derbyn unrhyw gynigion, cysylltwch â'ch prifysgol o ddewis gan fod rhai yn cymryd ymgeiswyr hwyr.
Os ydych chi'n ansicr cysylltwch â Thîm Derbyn Prifysgol Abertawe i drafod eich opsiynau.
Sut i sicrhau Cyllid Myfyrwyr os af trwy Glirio?
Cymerwch gip ar ein Canllaw Cyllid Clirio i gael gwybodaeth ar sut i sicrhau Cyllid Myfyrwyr.
Ydi hi'n rhy hwyr i wneud cais am lety?
Gall myfyrwyr sy'n gwneud cais yn ystod Clirio wneud cais am lety'r Brifysgol unwaith y byddant wedi cwblhau eu cais cwrs, gan ddefnyddio eu rhif adnabod UCAS. Os nad oes rhif adnabod UCAS gan y myfyriwr, gallant wneud cais unwaith y byddant wedi derbyn eu rhif myfyriwr gan y Brifysgol (byddwch yn derbyn y rhif ar ôl cyflwyno'ch cais cwrs).
Gwnewch gais am lety wedi ei reoli gan y Brifysgol cyn Awst yr 20fed i gael cynnig llety wedi ei warantu.
Dysgwch ragor am Lety i fyfyrwyr sy'n gwneud cais yn ystod Clirio.
Sut i wrthod eich lle ac ymuno â'r broses Glirio
Os ydych chi am ddod i Brifysgol Abertawe ond eisoes yn dal lle mewn prifysgol arall, gallwch wrthod eich lle yn eich Hwb UCAS ac ymuno â'r broses Glirio.
Darganfyddwch sut mae'n gweithio yn ein Canllaw ar Sut i Wrthod eich Lle ac Ymuno â Chlirio.
Pam astudio yn Abertawe?
Mae ein campysau glan-môr godidog a chymuned cyfeillgar yn gwneud Abertawe yn lleoliad dymunol i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd, sy’n galluogi’r bobl sy’n ymuno â ni i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llewyrchus a llwyddiannus.
Mae ein ffigurau’n siarad drostyn nhw eu hunain. Rydym yn safle 29 yn y DU yn y Guardian University Guide 2025, ni yw Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yn y Times Good University Guide 2025 a byddai 95% o’r myfyrwyr a holwyd yn argymell Prifysgol Abertawe (Uni Compare 2025). Mae Abertawe hefyd wedi’i henwi fel y 7fed Ddinas Ddiogelaf yn y DU (Complete University Guide, 2024) sy’n ein gwneud yn lle delfrydol i astudio. Darllenwch ragor am ragoriaeth addysgu Prifysgol Abertawe.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni amdano, darllenwch am brofiadau Cara - myfyrwraig Cymraeg blwyddyn olaf - wrth iddi sôn pam bod Abertawe yn lle gwych i astudio.
Oes dal cwestiynau gennych chi am Glirio?
Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin i weld y wybodaeth ychwanegol rydym ni wedi ei gynnwys i ateb rhai o'r cwestiynau mae myfyrwyr yn aml yn gofyn yn ystod Clirio - o gwestiynau am fywyd myfyrwyr i sut mae'r broses Clirio'n gweithio.
Gallwch hefyd sgwrsio'n fyw gyda'r tîm derbyn os na fyddwch chi'n dod o hyd i'r ateb sydd ei angen arnoch chi.
Os ydych chi am glywed mwy am sut mae ein myfyrwyr yn teimlo am Brifysgol Abertawe, mae ein myfyrwyr cyfeillgar ar gael i ateb eich cwestiynau.